Adran 20 – Gofyniad person addas a phriodol
43.Mae’n ofynnol i’r awdurdod trwyddedu benderfynu p’un a yw ceisydd am drwydded yn berson addas a phriodol i gael ei drwyddedu ai peidio. Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas â’r penderfyniad hwn. Wrth ddod i benderfyniad, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i’r holl faterion y mae’n eu hystyried yn briodol, gan gynnwys tystiolaeth benodol, a nodir yn is-adrannau (3) i (5).
44.Mae’r dystiolaeth yn syrthio i mewn i nifer o gategorïau. Yn gyntaf, tystiolaeth sy’n dangos bod y ceisydd wedi cyflawni troseddau sy’n cynnwys twyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau, neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Yn ail, tystiolaeth sy’n dangos bod y ceisydd wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon neu wedi aflonyddu rhywun ar sail unrhyw nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person yn groes i’r Ddeddf honno. Yn drydydd, tystiolaeth sy’n dangos bod y ceisydd wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai, landlord neu denant. Yn ychwanegol, bydd methiant â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded, gan gynnwys yr amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad trwydded gydymffurfio â’r cod ymarfer a ddyroddir o dan adran 40, yn dystiolaeth berthnasol ar gyfer penderfynu a yw person yn addas a phriodol i ddal trwydded.
45.Rhaid i awdurdod trwyddedu ystyried hefyd a yw gweithredoedd person sy’n gysylltiedig â’r ceisydd yn berthnasol i’r cwestiwn a yw ceisydd yn berson addas a phriodol. Gall person cyswllt fod yn berson sy’n gysylltiedig â’r ceisydd ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall.