Adran 15 – Cofrestru gan awdurdod trwyddedu
31.Rhaid i gais gan landlord am gael ei gofrestru gael ei wneud i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi. Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i’r awdurdod trwyddedu, os yw’r cais wedi ei wneud ar y ffurf sy’n ofynnol, yn cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru neu unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac wedi ei yrru ynghyd â’r ffi sy’n ofynnol, gofrestru’r landlord o fewn cyfnod penodedig. Nodir hefyd y ffi gofrestru a’r cyfnod mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
32.Rhaid i’r awdurdod trwydded neilltuo rhif cofrestru i’r landlord a hysbysu’r landlord am y cofrestriad a’r rhif cofrestru. Caiff awdurdod trwyddedu godi ffi bellach (fel a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru) am barhau’r cofrestriad ond ni chaiff wneud hynny cyn pen pum mlynedd ar ôl y dyddiad y cofrestrwyd y landlord ac, wedi hynny, cyn pen pob cyfnod o bum mlynedd ar ôl y dyddiad y caniateir codi ffi bellach.