Nodyn Esboniadol

Deddf Tai (Cymru) 2014

7

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Tai (Cymru) 2014 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014. Fe’u lluniwyd gan Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.  Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Mae cyfeiriad at awdurdod lleol yn y Nodiadau Esboniadol hyn yn gyfeiriad at gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae’r rhain i gyd yn ‘awdurdodau tai lleol’ yn ychwanegol at eu swyddogaethau eraill.  Mae awdurdodau tai lleol yng Nghymru yn gynghorau sir neu’n gynghorau bwrdeistref sirol sy’n arfer ystod o swyddogaethau sy’n ymdrin ag amryw faterion.