Swyddogion gorfodi amaethyddol

8Penodi swyddogion

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru benodi swyddogion i weithredu yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)

Rhaid i swyddog, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy’n dangos bod gan y swyddog yr awdurdod i weithredu.

(3)

Os ymddengys i swyddog, wrth iddo weithredu at ddibenion y Ddeddf hon, nad yw unrhyw berson y mae’r swyddog yn ymdrin ag ef yn ymwybodol bod y swyddog yn gweithredu yn y fath fodd, rhaid i’r swyddog hysbysu’r person am y ffaith honno.