7Dyletswydd ar gyflogwyr i gadw cofnodionLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol—
(a)cadw, ar y ffurf ac yn y modd a bennir, y cofnodion hynny a bennir, a
(b)diogelu’r cofnodion hynny am y cyfnod hwnnw a bennir.
(2)Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19