Gorchmynion cyflogau amaethyddol
3Gorchmynion cyflogau amaethyddol
(1)
Mae gorchymyn cyflogau amaethyddol yn orchymyn sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraddau tâl isaf gweithwyr amaethyddol ac ynghylch telerau ac amodau cyflogaeth eraill y gweithwyr hynny.
(2)
Caiff gorchymyn cyflogau amaethyddol, yn benodol, gynnwys darpariaeth—x
(a)
sy’n pennu’r cyfraddau tâl isaf sydd i’w talu i weithwyr amaethyddol (gan gynnwys cyfraddau ar gyfer cyfnodau pan fo gweithwyr o’r fath yn absennol o ganlyniad i salwch neu anaf);
(b)
ynghylch unrhyw fuddion neu fanteision y caniateir iddynt, at ddibenion cyfradd tâl isaf, gael eu hystyried yn dâl yn lle taliad arian parod;
(c)
sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol ganiatáu i weithwyr o’r fath gymryd unrhyw wyliau ac absenoldeb arall a bennir yn y gorchymyn.
(3)
Caiff gorchymyn cyflogau amaethyddol bennu cyfraddau gwahanol a gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gweithwyr amaethyddol o ddisgrifiadau gwahanol.
(4)
Ni chaniateir i orchymyn cyflogau amaethyddol gynnwys unrhyw ddarpariaeth ynghylch pensiynau gweithwyr amaethyddol.
(5)
Ni chaniateir pennu cyfradd tâl isaf mewn gorchymyn o dan yr adran hon sy’n llai na’r isafswm cyflog cenedlaethol.