Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae “addasu” (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio neu ddiddymu;
mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—
ffermio gwartheg godro;
cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (p’un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);
defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;
defnyddio tir fel perllan, tir helyg gwiail neu goetir;
defnyddio tir fel gerddi marchnad neu blanhigfa;
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw bod yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth a dylid dehongli “a gyflogir” (“employed”) a “cyflogwr” (“employer”) yn unol â hynny;
ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i’w fwyta ac i’w yfed neu i’w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;
ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (p. 39);
mae “gorchymyn cyflogau amaethyddol (“agricultural wages order”) i’w ddehongli yn unol ag adran 3 (ond gweler hefyd adran 12(3));
ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, p’un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei gwneud yng Nghymru ai peidio;
mae i’r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10.