14Cyfnod para’r Ddeddf honLL+C
(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) ac, at ddibenion yr is-adran honno, adrannau 17(1), 17(2) a 18) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod dod i ben, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud o dan is-adran (2).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ar ôl diwedd y cyfnod adolygu ond cyn diwedd y cyfnod dod i ben, ddarparu bod y Ddeddf hon i barhau mewn effaith er gwaethaf is-adran (1).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i’r ffaith bod y Ddeddf hon yn peidio â chael effaith.
(4)Yn yr adran hon—
mae i “y cyfnod adolygu” (“the review period”) yr un ystyr ag yn adran 13;
ystyr “y cyfnod dod i ben” (“the expiration period”) yw’r cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19