Nodyn Esboniadol

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

6

30 Gorffennaf 2014

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 4 – Gorchmynion cyflogau amaethyddol: pwerau Gweinidogion Cymru

15.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn cyflogau amaethyddol ar ôl cael gorchymyn drafft oddi wrth y Panel. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer hefyd i gyfeirio’r gorchymyn yn ôl at y Panel i’w ystyried ymhellach a’i ailgyflwyno, os teimlir bod hynny’n angenrheidiol.

16.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud gorchmynion cyflogau amaethyddol o’u pen a’u pastwn eu hunain, hyd nes bod y Panel wedi ei sefydlu. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ystyried unrhyw newidiadau a wneir i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, pan fo’r newidiadau hynny yn digwydd cyn i’r Panel gael ei sefydlu. Gellid defnyddio’r pŵer hwn, er enghraifft, i bennu isafswm cyflogau amaethyddol uwch, pan fyddai’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel arall yn cynyddu y tu hwnt i’r isafswm cyflog amaethyddol.

17.Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwneud gorchymyn o’u pen a’u pastwn eu hunain, cyn gwneud hynny, rhaid iddynt ymgynghori â’r personau neu’r cyrff sy’n debygol o fod â buddiant yn y gorchymyn yn eu barn hwy. Yn ymarferol, mae hyn yn debygol o gynnwys undebau’r ffermwyr a chynrychiolwyr eraill y sector, ffermwyr a gweithwyr amaethyddol eu hunain.