xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

2014 dccc 6

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth mewn perthynas â’r sector amaethyddol yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

[30 Gorffennaf 2014]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:-

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru,

(b)gwneud gorchmynion sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer personau a gyflogir mewn amaethyddiaeth yng Nghymru (“gweithwyr amaethyddol”), ac

(c)gorfodi’r telerau a’r amodau hynny.

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

2Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, sefydlu panel a elwir Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (“y Panel”) i gyflawni’r swyddogaethau a restrir yn is-adran (2).

(2)Y swyddogaethau yw—

(a)hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth;

(b)llunio gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo;

(c)cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru;

(d)unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru yn y gorchymyn.

(3)Mae’r Panel i gynnwys—

(a)aelod i gadeirio’r Panel, a

(b)o leiaf 3, ond dim mwy na 10, aelod arall.

(4)Wrth arfer unrhyw swyddogaethau mewn perthynas ag aelodaeth y Panel, rhaid i Weinidogion Cymru geisio sicrhau bod yr aelodaeth—

(a)yn cynnwys personau â’r sgiliau a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol, a

(b)yn adlewyrchu buddiannau pob rhan o’r sector amaethyddol yn ddigonol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch cyfansoddiad a thrafodion y Panel;

(b)ynghylch penodi aelodau i’r Panel;

(c)ynghylch pwerau cyffredinol y Panel;

(d)sy’n ychwanegu at swyddogaethau’r Panel, yn eu diwygio neu yn eu dileu.

(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gorchmynion cyflogau amaethyddol

3Gorchmynion cyflogau amaethyddol

(1)Mae gorchymyn cyflogau amaethyddol yn orchymyn sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraddau tâl isaf gweithwyr amaethyddol ac ynghylch telerau ac amodau cyflogaeth eraill y gweithwyr hynny.

(2)Caiff gorchymyn cyflogau amaethyddol, yn benodol, gynnwys darpariaeth—x

(a)sy’n pennu’r cyfraddau tâl isaf sydd i’w talu i weithwyr amaethyddol (gan gynnwys cyfraddau ar gyfer cyfnodau pan fo gweithwyr o’r fath yn absennol o ganlyniad i salwch neu anaf);

(b)ynghylch unrhyw fuddion neu fanteision y caniateir iddynt, at ddibenion cyfradd tâl isaf, gael eu hystyried yn dâl yn lle taliad arian parod;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol ganiatáu i weithwyr o’r fath gymryd unrhyw wyliau ac absenoldeb arall a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff gorchymyn cyflogau amaethyddol bennu cyfraddau gwahanol a gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gweithwyr amaethyddol o ddisgrifiadau gwahanol.

(4)Ni chaniateir i orchymyn cyflogau amaethyddol gynnwys unrhyw ddarpariaeth ynghylch pensiynau gweithwyr amaethyddol.

(5)Ni chaniateir pennu cyfradd tâl isaf mewn gorchymyn o dan yr adran hon sy’n llai na’r isafswm cyflog cenedlaethol.

4Gorchmynion cyflogau amaethyddol: pwerau Gweinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft oddi wrth y Panel—

(a)cymeradwyo a gwneud y gorchymyn, neu

(b)cyfeirio’r gorchymyn yn ôl at y Panel i’w ystyried ymhellach a’i ailgyflwyno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, o’u pen a’u pastwn eu hunain, wneud gorchmynion cyflogau amaethyddol hyd nes bod y Panel wedi ei sefydlu.

(3)Cyn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau neu’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y gorchymyn yn eu barn hwy.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cyflogau amaethyddol gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(a)ynghylch ffurf a chynnwys gorchymyn, a

(b)ynghylch y weithdrefn i’w dilyn a’r ymgynghori i’w gynnal mewn perthynas â gorchymyn.

Gorfodi

5Gorfodi’r cyfraddau isaf

(1)Mae darpariaethau gorfodi Deddf 1998 sydd wedi eu rhestru yn is-adran (2) i gael effaith at ddibenion y Ddeddf hon fel y maent yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf honno (ac eithrio i'r graddau yn maent yn ymwneud â Gogledd Iwerddon neu'r Alban), ond gyda’r addasiadau a nodir yn is-adrannau (3) i (7) o’r adran hon.

(2)Mae’r darpariaethau gorfodi fel a ganlyn—

(a)adrannau 10 ac 11 (cofnodion);

(b)adran 14 (pwerau swyddogion);

(c)adran 17 (hawl gweithiwr i dâl ychwanegol), ac eithrio is-adran (3);

(d)adran 19 (hysbysiadau o dandaliad: ôl-ddyledion);

(e)adran 19C (hysbysiadau o dandaliad: apelau), ac eithrio is-adrannau (1)(c) a (6) ac, i’r graddau y mae’n ymwneud ag apelau o dan is-adran (1)(c), is-adran (8);

(f)adran 19D (peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dandaliad: adennill ôl-ddyledion);

(g)adran 19F (tynnu hysbysiad o dandaliad yn ôl), ac eithrio is-adrannau (2)(a) a (4);

(h)adran 19G (hysbysiad o dandaliad wedi ei amnewid);

(i)adran 19H (effaith hysbysiad o dandaliad wedi ei amnewid), ac eithrio is-adrannau (4) a (5);

(j)adrannau 23 a 24 (yr hawl i beidio â dioddef niwed);

(k)adran 28 (tystiolaeth: gwrthdroi’r baich profi mewn achosion sifil);

(l)adrannau 31 a 33 (troseddau);

(m)adran 48 (uwch gyflogwyr);

(n)adran 49 (cyfyngiad ar gontractio allan).

(3)Wrth gymhwyso unrhyw rai o’r darpariaethau gorfodi hynny—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Ddeddf 1998, ac eithrio cyfeiriad at ddarpariaeth benodol ynddi, yn cynnwys cyfeiriad at y Ddeddf hon;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at weithiwr (o fewn ystyr Deddf 1998) i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at weithiwr amaethyddol (o fewn ystyr y Ddeddf hon);

(c)mae unrhyw gyfeiriad at berson (sut bynnag y’i disgrifir) sy’n gymwys i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at weithiwr amaethyddol;

(d)mae unrhyw gyfeiriad at gofnod yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw gofnod y mae’n ofynnol i gyflogwr gweithiwr amaethyddol ei gadw a’i ddiogelu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o’r Ddeddf hon;

(e)mae unrhyw gyfeiriad at swyddog yn gweithredu at ddibenion Deddf 1998 i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at swyddog yn gweithredu at ddibenion y Ddeddf hon;

(f)yn ddarostyngedig i baragraff (c), mae unrhyw gyfeiriad at yr isafswm cyflog cenedlaethol, ac eithrio cyfeiriad at swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol, i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y gyfradd isaf sy’n gymwys yn rhinwedd y Ddeddf hon;

(g)yn ddarostyngedig i baragraff (c), mae unrhyw gyfeiriad at fod yn gymwys i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol i gael ei ddehongli fel bod â’r hawl i’r gyfradd isaf sy’n gymwys yn rhinwedd y Ddeddf hon.

(4)Wrth gymhwyso adrannau 10(10), 14(1)(a) a 31 o Ddeddf 1998, mae’r cyfeiriadau at gofnod y mae’n ofynnol i’w gadw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 9 o Ddeddf 1998 yn cynnwys cyfeiriadau at gofnod y mae’n ofynnol i’w gadw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o’r Ddeddf hon.

(5)Wrth gymhwyso adran 14 o Ddeddf 1998, ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Where an officer wishes to exercise the power under paragraph (d) of subsection (1) in relation to a dwelling house, the officer must first give reasonable notice.

(6)Wrth gymhwyso adran 17 o Ddeddf 1998—

(a)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)The amount referred to in subsection (1)(a) is the difference between—

(a)the remuneration received by the worker as an agricultural worker for the pay reference period from the worker’s employer, and

(b)the amount which the worker would have received as an agricultural worker for that period had the worker been remunerated by the employer at the minimum rate applicable by virtue of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014;,

(b)yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)the amount referred to in subsection (1)(b) is the amount determined by the formula—

where—

  • A is the amount described in subsection (2),

  • R1 is the minimum rate applicable by virtue of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014 in respect of the worker during the pay reference period, and

  • R2 is the minimum rate which would have been applicable by virtue of that Act in respect of the worker during the pay reference period had the minimum rate applicable by virtue of that Act in respect of the worker during that period been determined by reference to any order under section 3 of that Act in force at the time of determination.

(7)Wrth gymhwyso adran 33(1A) o Ddeddf 1998 (awdurdodiad ar gyfer cynnal achosion) yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.

(8)Yn adran 104A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (diswyddo annheg: isafswm cyflog cenedlaethol), yn is-adran (1)(c)—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at berson sy’n gymwys i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at berson sydd â’r hawl neu fydd â’r hawl i gyfradd isaf sy’n gymwys yn rhinwedd y Ddeddf hon, a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at berson sy’n gymwys i gael cyfradd benodol o’r isafswm cyflog cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at berson sydd â’r hawl neu fydd â’r hawl i gyfradd isaf benodol sy’n gymwys yn rhinwedd y Ddeddf hon.

6Gorfodi’r hawl i wyliau

(1)Mae’n drosedd i gyflogwr gweithiwr amaethyddol i fethu â chaniatáu i’r gweithiwr gymryd y gwyliau a bennir mewn gorchymyn cyflogau amaethyddol.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3)Mewn unrhyw achos yn erbyn person o dan yr adran hon, y person sydd i brofi bod y gweithiwr amaethyddol wedi cael caniatâd i gymryd y gwyliau yr oedd gan y gweithiwr hwnnw hawl i’w cymryd.

Cofnodion

7Dyletswydd ar gyflogwyr i gadw cofnodion

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol—

(a)cadw, ar y ffurf ac yn y modd a bennir, y cofnodion hynny a bennir, a

(b)diogelu’r cofnodion hynny am y cyfnod hwnnw a bennir.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).

Swyddogion gorfodi amaethyddol

8Penodi swyddogion

(1)Caiff Gweinidogion Cymru benodi swyddogion i weithredu yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i swyddog, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy’n dangos bod gan y swyddog yr awdurdod i weithredu.

(3)Os ymddengys i swyddog, wrth iddo weithredu at ddibenion y Ddeddf hon, nad yw unrhyw berson y mae’r swyddog yn ymdrin ag ef yn ymwybodol bod y swyddog yn gweithredu yn y fath fodd, rhaid i’r swyddog hysbysu’r person am y ffaith honno.

9Gwybodaeth a ddaw i feddiant swyddogion

(1)Caniateir rhoi gwybodaeth a ddaw i feddiant swyddog sy’n gweithredu at ddibenion y Ddeddf hon—

(a)i Weinidogion Cymru, a

(b)pan fo’n ymwneud â gweithiwr amaethyddol adnabyddadwy, i’r gweithiwr hwnnw.

(2)Ni chaniateir i Weinidogion Cymru roi’r wybodaeth i unrhyw berson neu gorff arall oni bai bod yr wybodaeth yn cael ei rhoi at ddibenion unrhyw achos sifil neu achos troseddol sy’n ymwneud â’r Ddeddf hon.

(3)Nid yw’r adran hon yn cyfyngu ar yr amgylchiadau lle y caniateir rhoi neu ddefnyddio gwybodaeth ac eithrio ar gyfer yr adran hon.

Amrywiol

10Ystyr “yr isafswm cyflog cenedlaethol”

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (5), ystyr “yr isafswm cyflog cenedlaethol” yw’r gyfradd sengl yr awr sydd mewn grym am y tro yn rhinwedd y rheoliadau o dan adran 1(3) o Ddeddf 1998.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys, yn achos personau o unrhyw ddisgrifiad, os yw rheoliadau o dan adran 3(2) o Ddeddf 1998 yn eu hatal rhag bod yn bersonau sydd (o fewn ystyr y Ddeddf honno) yn gymwys i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol.

(3)Mae’r Ddeddf hon i gael effaith mewn perthynas â phersonau o’r disgrifiad hwnnw fel petai’r isafswm cyflog cenedlaethol yn ddim.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys, yn achos personau o unrhyw ddisgrifiad, os yw rheoliadau o dan adran 3(2) o Ddeddf 1998 yn rhagnodi cyfradd (“y gyfradd ostyngol”) ar gyfer yr isafswm cyflog cenedlaethol sy’n wahanol i’r gyfradd sengl yr awr a ragnodir am y tro o dan adran 1(3) o’r Ddeddf honno.

(5)Mae’r Ddeddf hon i gael effaith mewn perthynas â phersonau o’r disgrifiad hwnnw fel petai’r isafswm cyflog cenedlaethol yn cyfateb i’r gyfradd ostyngol.

11Diwygio’r Rheoliadau Oriau Gwaith

(1)Mae Rheoliadau Oriau Gwaith 1998 (OS 1998/1833) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “worker employed in agriculture”, ar ôl “agriculture” mewnosoder “means, in relation to Wales, an agricultural worker within the meaning of section 18 of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014 and otherwise”.

(3)Ym mharagraff 3 o Atodlen 2 (gweithwyr a gyflogir mewn amaethyddiaeth), ar ôl “1948” mewnosoder “, section 3 of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014”.

12Darpariaeth drosiannol

(1)Er gwaethaf y darpariaethau a restrir yn is-adran (2), mae darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 i gael effaith o ran gweithwyr amaethyddol ar 1 Hydref 2013 ac wedi hynny hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol.

(2)Mae’r darpariaethau fel a ganlyn—

(a)adran 72(4) a pharagraff 2 o Atodlen 20 i Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013;

(b)erthygl 4 o Orchymyn Deddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013 (OS 2013/1455).

(3)Mae darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012, at ddibenion unrhyw hawl neu atebolrwydd a gronnir oddi tanynt ar 1 Hydref 2013 neu wedi hynny, i gael eu trin fel petaent yn ddarpariaethau gorchymyn cyflogau amaethyddol a wnaed o dan adran 3 o’r Ddeddf hon.

(4)Os yw’r isafswm cyflog cenedlaethol yn uwch nag unrhyw gyfradd isaf sy’n gyfradd fesul awr a nodir yn narpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012, bernir mai’r gyfradd isaf dan sylw yw’r isafswm cyflog cenedlaethol.

(5)Os yw’r isafswm cyflog cenedlaethol yn swm sy’n golygu bod cyfradd isaf (ac eithrio cyfradd isaf sy’n gyfradd fesul awr) yn narpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 yn rhoi cyfradd tâl lai am bob awr a weithir na swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol, bernir bod y gyfradd isaf dan sylw yn gyfradd sy’n rhoi tâl am bob awr a weithir sydd gyfwerth â swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012” yw darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (fel y’i gwnaed gan Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ar 20 Gorffennaf 2012).

13Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod adolygu, osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, gynnwys gwybodaeth am yr effaith y mae gweithrediad y Ddeddf hon wedi ei chael ar—

(a)gweithwyr amaethyddol,

(b)cyflogwyr gweithwyr amaethyddol, ac

(c)y sector amaethyddol yn gyffredinol.

(3)Cyn llunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r adroddiad gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gyhoeddi’r adroddiad yn y modd sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Yn yr adran hon ystyr “y cyfnod adolygu” yw’r cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym.

14Cyfnod para’r Ddeddf hon

(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) ac, at ddibenion yr is-adran honno, adrannau 17(1), 17(2) a 18) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod dod i ben, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud o dan is-adran (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ar ôl diwedd y cyfnod adolygu ond cyn diwedd y cyfnod dod i ben, ddarparu bod y Ddeddf hon i barhau mewn effaith er gwaethaf is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i’r ffaith bod y Ddeddf hon yn peidio â chael effaith.

(4)Yn yr adran hon—

Cyffredinol

15Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan gyflawnir trosedd o dan y Ddeddf hon gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni â chydsyniad neu gydgynllwyn y canlynol, neu ei bod i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn cyflawni rôl o’r fath,

mae’r cyfarwyddwr, y rheolwr, yr ysgrifennydd neu’r person hwnnw a oedd yn honni cyflawni rôl o’r fath (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn atebol i gael achos yn ei erbyn a chael ei gosbi’n unol â hynny.

(3)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)unrhyw swyddog tebyg yn y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, unrhyw swyddog neu aelod o’r corff hwnnw.

16Darpariaeth ategol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, ategol, drosiannol, ddarfodol neu ddarpariaeth arbed y maent yn eu hystyried yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei gwneud gan, neu o dan, y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

17Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol ac yn cynnwys pŵer i—

(a)gwneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, ategol, drosiannol, ddarfodol neu ddarpariaeth arbed y maent yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Nid yw offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â darpariaethau eraill)—

(a)gorchymyn o dan adran 2,

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)gorchymyn o dan adran 14, neu

(d)gorchymyn o dan adran 16 sy’n cynnwys darpariaeth sy’n ychwanegu at destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn diwygio’r testun neu yn ei hepgor,

i gael ei wneud nes bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i fod yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

18Dehongli

Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

19Cychwyn

Daw darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol.

20Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.