xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CyffredinolLL+C

15Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan gyflawnir trosedd o dan y Ddeddf hon gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni â chydsyniad neu gydgynllwyn y canlynol, neu ei bod i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn cyflawni rôl o’r fath,

mae’r cyfarwyddwr, y rheolwr, yr ysgrifennydd neu’r person hwnnw a oedd yn honni cyflawni rôl o’r fath (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn atebol i gael achos yn ei erbyn a chael ei gosbi’n unol â hynny.

(3)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)unrhyw swyddog tebyg yn y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, unrhyw swyddog neu aelod o’r corff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19

16Darpariaeth ategolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, ategol, drosiannol, ddarfodol neu ddarpariaeth arbed y maent yn eu hystyried yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei gwneud gan, neu o dan, y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 16 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19

17Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol ac yn cynnwys pŵer i—

(a)gwneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, ategol, drosiannol, ddarfodol neu ddarpariaeth arbed y maent yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Nid yw offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â darpariaethau eraill)—

(a)gorchymyn o dan adran 2,

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)gorchymyn o dan adran 14, neu

(d)gorchymyn o dan adran 16 sy’n cynnwys darpariaeth sy’n ychwanegu at destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn diwygio’r testun neu yn ei hepgor,

i gael ei wneud nes bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i fod yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 17 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19

18DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 18 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19

19CychwynLL+C

Daw darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 19 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19

20Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 20 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19