xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Amrywiol

10Ystyr “yr isafswm cyflog cenedlaethol”

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (5), ystyr “yr isafswm cyflog cenedlaethol” yw’r gyfradd sengl yr awr sydd mewn grym am y tro yn rhinwedd y rheoliadau o dan adran 1(3) o Ddeddf 1998.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys, yn achos personau o unrhyw ddisgrifiad, os yw rheoliadau o dan adran 3(2) o Ddeddf 1998 yn eu hatal rhag bod yn bersonau sydd (o fewn ystyr y Ddeddf honno) yn gymwys i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol.

(3)Mae’r Ddeddf hon i gael effaith mewn perthynas â phersonau o’r disgrifiad hwnnw fel petai’r isafswm cyflog cenedlaethol yn ddim.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys, yn achos personau o unrhyw ddisgrifiad, os yw rheoliadau o dan adran 3(2) o Ddeddf 1998 yn rhagnodi cyfradd (“y gyfradd ostyngol”) ar gyfer yr isafswm cyflog cenedlaethol sy’n wahanol i’r gyfradd sengl yr awr a ragnodir am y tro o dan adran 1(3) o’r Ddeddf honno.

(5)Mae’r Ddeddf hon i gael effaith mewn perthynas â phersonau o’r disgrifiad hwnnw fel petai’r isafswm cyflog cenedlaethol yn cyfateb i’r gyfradd ostyngol.

11Diwygio’r Rheoliadau Oriau Gwaith

(1)Mae Rheoliadau Oriau Gwaith 1998 (OS 1998/1833) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “worker employed in agriculture”, ar ôl “agriculture” mewnosoder “means, in relation to Wales, an agricultural worker within the meaning of section 18 of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014 and otherwise”.

(3)Ym mharagraff 3 o Atodlen 2 (gweithwyr a gyflogir mewn amaethyddiaeth), ar ôl “1948” mewnosoder “, section 3 of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014”.

12Darpariaeth drosiannol

(1)Er gwaethaf y darpariaethau a restrir yn is-adran (2), mae darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 i gael effaith o ran gweithwyr amaethyddol ar 1 Hydref 2013 ac wedi hynny hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol.

(2)Mae’r darpariaethau fel a ganlyn—

(a)adran 72(4) a pharagraff 2 o Atodlen 20 i Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013;

(b)erthygl 4 o Orchymyn Deddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013 (OS 2013/1455).

(3)Mae darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012, at ddibenion unrhyw hawl neu atebolrwydd a gronnir oddi tanynt ar 1 Hydref 2013 neu wedi hynny, i gael eu trin fel petaent yn ddarpariaethau gorchymyn cyflogau amaethyddol a wnaed o dan adran 3 o’r Ddeddf hon.

(4)Os yw’r isafswm cyflog cenedlaethol yn uwch nag unrhyw gyfradd isaf sy’n gyfradd fesul awr a nodir yn narpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012, bernir mai’r gyfradd isaf dan sylw yw’r isafswm cyflog cenedlaethol.

(5)Os yw’r isafswm cyflog cenedlaethol yn swm sy’n golygu bod cyfradd isaf (ac eithrio cyfradd isaf sy’n gyfradd fesul awr) yn narpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 yn rhoi cyfradd tâl lai am bob awr a weithir na swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol, bernir bod y gyfradd isaf dan sylw yn gyfradd sy’n rhoi tâl am bob awr a weithir sydd gyfwerth â swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012” yw darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (fel y’i gwnaed gan Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ar 20 Gorffennaf 2012).

13Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod adolygu, osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, gynnwys gwybodaeth am yr effaith y mae gweithrediad y Ddeddf hon wedi ei chael ar—

(a)gweithwyr amaethyddol,

(b)cyflogwyr gweithwyr amaethyddol, ac

(c)y sector amaethyddol yn gyffredinol.

(3)Cyn llunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r adroddiad gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gyhoeddi’r adroddiad yn y modd sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Yn yr adran hon ystyr “y cyfnod adolygu” yw’r cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym.

14Cyfnod para’r Ddeddf hon

(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) ac, at ddibenion yr is-adran honno, adrannau 17(1), 17(2) a 18) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod dod i ben, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud o dan is-adran (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ar ôl diwedd y cyfnod adolygu ond cyn diwedd y cyfnod dod i ben, ddarparu bod y Ddeddf hon i barhau mewn effaith er gwaethaf is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i’r ffaith bod y Ddeddf hon yn peidio â chael effaith.

(4)Yn yr adran hon—