Search Legislation

Deddf Addysg (Cymru) 2014

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg (Cymru) 2014. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Legislation Crest

Bil Addysg (Cymru) 2014

2014 dccc 5

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch Cyngor y Gweithlu Addysg (Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gynt); i estyn gofynion cofrestru, cymhwyso a hyfforddi’r gweithlu addysg; i wneud darpariaeth ynghylch penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol yng Nghymru; i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodiadau i Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

[12 Mai 2014]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:-

RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

1TrosolwgLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o gynnwys y Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg;

(b)cofrestru personau penodol sy’n addysgu plant a phobl ifanc;

(c)rheoleiddio personau cofrestredig, gan gynnwys—

(i)y rhwymedigaeth ar bersonau cofrestredig i gydymffurfio â chod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol;

(ii)y camau y gellir eu cymryd yn erbyn person cofrestredig;

(d)rhannu gwybodaeth ynghylch personau cofrestredig.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion yng Nghymru;

(b)amserau sesiynau ysgolion;

(c)penodi personau i Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

(d)swyddogaethau addysg awdurdodau lleol sydd, yn rhinwedd adran 25 neu 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i’w trin yn arferadwy, at bob diben, gan bersonau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â’r Ddeddf.

(5)Darperir mynegai o’r geiriau a’r ymadroddion sydd wedi eu diffinio a’u defnyddio yn y Ddeddf hon yn Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(a)

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Cyngor y Gweithlu AddysgLL+C

2Cyngor y Gweithlu AddysgLL+C

(1)Mae’r corff corfforaethol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) a elwir Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru—

(a)i barhau i fodoli, ond

(b)i newid ei enw i (ac fe’i gelwir o hyn ymlaen yn) “Cyngor y Gweithlu Addysg” (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cyngor”).

(2)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a phwerau’r Cyngor) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I3A. 2 mewn grym ar 18.8.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(a)

I4A. 2 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(a)

I5A. 2 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(a)

3Nodau’r CyngorLL+C

Prif nodau’r Cyngor yw—

(a)cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru, a

(b)cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I7A. 3 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(b)

4Swyddogaethau’r CyngorLL+C

(1)Prif swyddogaethau’r Cyngor yw—

(a)darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r personau y mae’n eu rheoleiddio ac addysgu a dysgu yn unol ag adran 7;

(b)ymgymryd â gweithgareddau i hybu gyrfaoedd mewn proffesiynau cofrestradwy yn unol ag adran 8;

(c)sefydlu a chynnal cofrestr yn unol ag adran 9;

(d)sicrhau bod ganddo’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefydlu personau yn unol ag adran 17 a gwrando apelau mewn perthynas â phenderfyniadau sefydlu yn unol ag adran 19;

(e)adolygu a diwygio’r cod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ar gyfer personau cofrestredig yn unol ag adran 24;

(f)ymchwilio i ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac anghymhwysedd proffesiynol a chymryd camau priodol mewn cysylltiad â phersonau cofrestredig yn unol ag adran 26;

(g)cadw unrhyw wybodaeth ynghylch personau a bennir yn unol ag adran 33 a darparu gwybodaeth i unrhyw gyrff a bennir yn unol ag adran 35.

(2)Mae gan y Cyngor hefyd y swyddogaethau ychwanegol sydd wedi eu rhoi iddo yn rhinwedd—

(a)y Ddeddf hon;

(b)gorchymyn o dan adran 5;

(c)unrhyw ddeddfiad arall.

(3)Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i’r Cyngor gan neu o dan y Rhan hon yn arferadwy ganddo o ran Cymru yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I9A. 4 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(c)

5Y pŵer i ychwanegu swyddogaethauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn roi neu osod ar y Cyngor unrhyw swyddogaethau ychwanegol sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I11A. 5 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(b)

6CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (cyffredinol neu benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaniateir i gyfarwyddyd gael ei roi mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)cais penodol i gofrestru o dan adran 9;

(b)apêl sy’n ymwneud â chais o’r fath;

(c)achos disgyblu penodol o dan adran 26.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon mewn unrhyw ddull sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd (ac mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen sy’n amrywio neu’n dirymu cyfarwyddyd fel y mae’n gymwys i gyfarwyddyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I13A. 6 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(d)

Darparu cyngor a hybu gyrfaoeddLL+C

7Darparu cyngor gan y CyngorLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu cyngor—

(a)iddynt hwy ar—

(i)mater perthnasol, neu

(ii)unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag addysgu neu ddysgu, a

(b)i berson arall ar fater perthnasol.

(2)At ddibenion yr adran hon, y “materion perthnasol” yw—

(a)safonau gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig;

(b)safonau ymddygiad ar gyfer personau cofrestredig;

(c)addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer;

(d)rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru;

(e)statws pob un o’r proffesiynau hynny;

(f)hyfforddi, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig;

(g)recriwtio personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru a’u cadw;

(h)y cyflenwad o bersonau cofrestredig.

(3)Caiff y Cyngor hefyd ddarparu unrhyw gyngor sy’n briodol yn ei farn ef ar faterion perthnasol i unrhyw bersonau y mae’n penderfynu arnynt.

(4)Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, bob dau fis, am unrhyw gyngor sydd wedi ei roi ganddo ar faterion perthnasol yn ystod y ddau fis blaenorol, ac am y sawl a gafodd y cyngor hwnnw.

(5)Rhaid i gyngor a roddir o dan yr adran hon mewn perthynas â materion perthnasol fod o natur gyffredinol.

(6)Caiff y Cyngor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir ganddo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I15A. 7 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(e)

8Hybu gyrfaoeddLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru gyda’r bwriad o hybu gyrfaoedd, a datblygiad gyrfaoedd, yn y proffesiynau cofrestradwy yng Nghymru.

(2)Caiff y gweithgareddau gofynnol hynny gynnwys, yn benodol—

(a)rhoi cyngor;

(b)trefnu cynadleddau a darlithoedd;

(c)cyhoeddi deunyddiau hybu.

(3)At ddibenion adran 4(1)(b) a’r adran hon, mae’r cyfeiriad at yrfaoedd yn y proffesiynau cofrestradwy yn gyfeiriad at yrfaoedd sy’n darparu’r gwasanaethau a ddisgrifir mewn perthynas â chategori cofrestru (er enghraifft, addysgu).

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I17A. 8 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(e)

Cofrestru’r gweithlu addysgLL+C

9CofrestrLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr at ddibenion y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r gofrestr gynnwys enw pob person sy’n gymwys i’w gofrestru o dan adran 10 ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.

(3)Rhaid i’r gofrestr gynnwys y categorïau a nodir ac a ddisgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 (y “categorïau cofrestru”).

(4)Rhaid i bob person cofrestredig fod wedi ei gofrestru mewn o leiaf un categori cofrestru.

(5)Caniateir i berson gael ei gofrestru ar sail dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I19A. 9(1)(3) mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(c)

I20A. 9(1)(3) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(f)

I21A. 9(2)(4)(5) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(f)

10Cymhwystra ar gyfer cofrestruLL+C

(1)Mae person yn gymwys i’w gofrestru os yw’r person yn bodloni’r amodau yn yr adran hon.

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person—

(a)yn bodloni’r disgrifiad o gategori cofrestru ac wedi cwblhau’n foddhaol unrhyw gyfnod sefydlu sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 17, neu

(b)yn bodloni unrhyw ofynion ar gyfer cofrestru dros dro a bennir drwy reoliadau gan Weinidogion Cymru.

(3)Yr ail amod yw nad yw’r person—

(a)wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)),

(b)yn ddarostyngedig i orchymyn disgyblu a wneir o dan y Ddeddf hon ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw mae’r person yn anghymwys i gofrestru, neu

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n cyfateb i’r categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

(4)Y trydydd amod yw bod y Cyngor, ar adeg cofrestru, yn fodlon bod y ceisydd yn berson addas i’w gofrestru yn y categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio is-adran (3) i bennu unrhyw seiliau ychwanegol o ran anghymhwystra sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I23A. 10 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(d)

11Apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestruLL+C

(1)Caiff person y mae ei gais i gofrestru wedi ei wrthod gan y Cyngor ar y sail nad oedd y Cyngor wedi ei fodloni o ran addasrwydd y ceisydd o dan adran 10(4) apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I25A. 11 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(g)

12Ffioedd cofrestruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffioedd y caniateir iddynt fod yn daladwy mewn cysylltiad â chofrestru (gan gynnwys ffioedd er mwyn ailosod enw ar y gofrestr neu er mwyn cadw enw arni).

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)yn awdurdodi’r Cyngor i godi ffioedd a’u hadennill;

(b)ynghylch swm y ffioedd (a phwy sydd i benderfynu’r swm hwnnw);

(c)ynghylch unrhyw eithriadau neu esemptiadau y caniateir iddynt fod yn gymwys neu y mae rhaid iddynt fod yn gymwys;

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig—

(i)didynnu (neu drefnu didyniad) o gyflog person cofrestredig unrhyw ffi sy’n daladwy, a

(ii)talu’r ffi honno i’r Cyngor;

(e)ynghylch y trefniadau sydd i’w mabwysiadu gan gyflogwyr yn unol â pharagraff (d);

(f)ynghylch y taliadau gweinyddu y caiff cyflogwyr eu didynnu o unrhyw ffioedd a delir i’r Cyngor;

(g)ynghylch canlyniadau methu â thalu ffioedd (a gaiff gynnwys gwrthod cofrestru neu ddileu enw o’r gofrestr).

(3)Yn yr adran hon, mae “cyflog” yn cynnwys unrhyw dâl sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I27A. 12 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(e)

13Cofrestru: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y gofrestr a chofrestru sy’n briodol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y gofrestr;

(b)y ffurf a’r dull ar gyfer gwneud cais i gofrestru;

(c)y ddogfennaeth a thystiolaeth arall sydd i fynd gyda cheisiadau;

(d)sut i roi gwybod i geisydd am—

(i)y penderfyniad o ran p’un ai i gymeradwyo neu i wrthod cais i gofrestru, a

(ii)yn achos gwrthod cofrestru, y sail ar gyfer gwrthod y cais a hawl y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad;

(e)y materion sydd i’w cofnodi yn y gofrestr yn erbyn enwau’r rhai hynny sydd wedi eu cofrestru ynddi;

(f)ailosod cofnodion a’u newid;

(g)dileu cofnodion o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau hynny a bennir yn y rheoliadau;

(h)dyroddi tystysgrifau cofrestru a ffurf y tystysgrifau hynny;

(i)yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr y caniateir iddi fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni a’r amgylchiadau hynny pan ganiateir i’r wybodaeth honno fod ar gael a’r amodau hynny y caniateir i’r wybodaeth honno fod ar gael yn ddarostyngedig iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I29A. 13 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(f)

Y gofynion sydd i’w bodloni er mwyn darparu gwasanaethauLL+C

14Athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person ddarparu gwasanaethau penodedig mewn ysgol oni bai—

(a)bod y person—

(i)yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig (gweler adran 132 o Ddeddf 2002), neu

(ii)yn bodloni gofynion penodedig, a

(b)bod y person wedi ei gofrestru mewn categori cofrestru penodedig.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n pennu gwasanaethau at ddiben yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

(b)yr amgylchiadau ar gyfer cynnal gweithgareddau.

(3)Caniateir i ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd is-adran (2) gael ei wneud, yn benodol, drwy gyfeirio at weithgaredd a bennir mewn dogfen o’r math a grybwyllir yn adran 124(3) o Ddeddf 2002.

(4)Caniateir i ofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gyfyngu ar y cyfnod amser a ganiateir er mwyn i waith gael ei ddarparu gan berson yn ddibynnol ar is-adran (1)(a)(ii).

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I31A. 14 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(g)

I32A. 14 mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1688, ergl. 2(a)

15Athrawon addysg bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ddarparu na chaniateir i addysg gael ei darparu gan berson mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai—

(i)bod gan y person hwnnw gymhwyster penodedig, a

(ii)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach;

(b)pennu amodau y mae rhaid i berson sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru gydymffurfio â hwy neu y mae rhaid cydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu nad yw darpariaeth benodedig yn y rheoliadau i fod yn gymwys pan fo amod penodedig (a gaiff gyfeirio at farn person penodedig) wedi ei fodloni.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod swyddogaeth ar—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu (o fewn ystyr “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)) sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I34A. 15 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(h)

16Gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ddarparu’r gwasanaethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion penodedig, a

(b)wedi ei gofrestru yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.

(2)Y gwasanaethau yw—

(a)galluogi neu helpu dysgwr i gymryd rhan mewn addysg,

(b)cefnogi annibyniaeth, cyflawniad neu ddilyniant y dysgwr, neu

(c)cefnogi person sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach.

(3)Caiff gofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredigLL+C

17Gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol, neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, fod person wedi cwblhau unrhyw gyfnod sefydlu yn foddhaol mewn man neu leoliad o unrhyw ddisgrifiad a bennir cyn y caniateir i’r person hwnnw gofrestru (ac eithrio ar sail dros dro).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i berson gael ei esemptio o’r gofyniad ei fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol;

(b)ynghylch y cyfnod a’r broses sefydlu gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(i)y cyfnodau o gyflogaeth y caniateir iddynt gael eu cyfrif fel rhan o’r cyfnod sefydlu;

(ii)y cymeradwyaethau y caniateir iddynt fod yn ofynnol cyn y caiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu;

(iii)yr amgylchiadau pan nad yw’r sefydlu i ddigwydd mewn man neu leoliad o ddisgrifiad penodedig;

(iv)yr amgylchiadau pan gaiff person ymgymryd â mwy nag un cyfnod sefydlu;

(c)ynghylch hyfforddi a goruchwylio person yn ystod cyfnod sefydlu;

(d)ynghylch asesu personau sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu, gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n pennu’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am benderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol (“y corff priodol”);

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth perthnasol wneud argymhelliad i’r corff priodol o ran a yw’r person wedi bodloni’r safonau gofynnol y penderfynir arnynt o dan adran 18;

(iii)sy’n pennu amgylchiadau pan gaiff y corff priodol benderfynu y dylid estyn cyfnod sefydlu person neu pan fo rhaid i’r corff priodol benderfynu estyn y cyfnod hwnnw;

(e)ynghylch y canlyniadau yn sgil cwblhau cyfnod sefydlu gan berson (p’un ai yn foddhaol ai peidio), gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff priodol hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Cyngor pan fydd person wedi cwblhau cyfnod sefydlu neu fod y cyfnod hwnnw wedi ei estyn;

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr person nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol derfynu cyflogaeth y person neu fel arall sicrhau bod y person yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gyfer y cyflogwr;

(iii)sy’n ei gwneud yn ofynnol mai dim ond y gwasanaethau perthnasol hynny y penderfynir arnynt yn unol â’r rheoliadau y caiff y person eu darparu ar gyfer ei gyflogwr;

(f)ynghylch unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chyfnodau sefydlu sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru, gan gynnwys (er enghraifft) ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff priodol nad yw’n awdurdod lleol gynnwys cynrychiolydd o awdurdod o’r fath,

(ii)sy’n rhoi swyddogaethau pellach ar y corff priodol, a

(iii)sy’n awdurdodi’r corff priodol, mewn unrhyw amgylchiadau a bennir, i godi unrhyw daliadau mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

(3)Rhaid i berson neu gorff sy’n arfer swyddogaeth o dan yr adran hon neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tani roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I37A. 17 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(i)

18Safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y safonau y mae person i’w asesu yn unol â hwy at y diben o benderfynu p’un a yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu o dan adran 17 yn foddhaol ai peidio.

(2)Caniateir i safonau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I39A. 18 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(j)

I40A. 18 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(h)

19Apelau yn erbyn penderfyniadau sefydluLL+C

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad y corff priodol o dan adran 17(2)(d) apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2)Mae unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl o’r fath yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag apelau o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I42A. 19 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(k)

I43A. 19 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(i)

20Sefydlu: pwerau ymyrrydLL+C

(1)Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol) yn cael effaith mewn perthynas â dyletswyddau a osodir a phwerau a roddir yn rhinwedd adran 17 fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn cynnwys—

(a)corff llywodraethu (o fewn yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) sefydliad addysg bellach, a

(b)corff priodol ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir felly neu awdurdod lleol.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 yn orfodadwy drwy waharddeb (yn hytrach na gorchymyn gorfodol) ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.

(3)Nid yw’r adran hon yn rhagfarnu Rhan 2 o Ddeddf 2013 fel y mae’n gymwys i—

(a)cyrff llywodraethu—

(i)ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru,

(ii)ysgolion arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly, a

(b)awdurdodau lleol yng Nghymru,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt neu unrhyw bwerau a roddir iddynt yn rhinwedd adran 17.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I45A. 20 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(j)

21Sefydlu: dehongliLL+C

At ddibenion adrannau 17 i 20—

  • mae “corff priodol” i’w ddehongli yn unol ag adran 17(2)(d);

  • ystyr “pennaeth perthnasol” yw—

    (a)

    pennaeth ysgol,

    (b)

    pennaeth sefydliad addysg bellach, ac

    (c)

    unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I47A. 21 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(l)

22Darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—

(a)wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol berthnasol a gynhelir gyda’r bwriad o ddod yn athro neu athrawes ysgol neu’n weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol,

(b)heb gwblhau’n foddhaol y cyfnod sefydlu hwnnw, ac

(c)yn unol â gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 17(2)(e)(iii), dim ond yn darparu’r gwasanaethau perthnasol hynny yn yr ysgol y penderfynwyd arnynt yn unol â’r rheoliadau.

(2)Nid yw unrhyw gostau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â thâl y person i gael eu talu o gyfran yr ysgol o’r gyllideb ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ac eithrio i’r graddau y mae gan yr awdurdod reswm da dros ddidynnu’r costau hynny, neu unrhyw ran o’r costau hynny, o’r gyfran honno.

(3)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “cyfnod sefydlu” yw cyfnod sefydlu sy’n ofynnol o dan reoliadau o dan adran 17(1);

(b)ystyr “ysgol berthnasol a gynhelir” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru sydd â chyllideb ddirprwyedig;

(c)mae i gyfeiriad at gyfran yr ysgol o’r gyllideb neu at y ffaith bod gan ysgol gyllideb ddirprwyedig yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I49A. 22 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(k)

Rhagolygol

23Gwerthuso personau cofrestredigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berfformiad personau cofrestredig gael ei werthuso—

(a)mewn dull a bennir gan y rheoliadau, a

(b)ar adegau a bennir gan y rheoliadau neu y penderfynir arnynt yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod dyletswydd ar—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach;

(c)unrhyw gyflogwr arall personau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol;

(d)pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad addysg bellach;

(e)unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb gyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i werthusiad gael ei gynnal mewn dull sy’n rhoi disgresiwn ar berson a bennir gan y rheoliadau neu a ddewisir neu y penderfynir arno yn unol â hwy;

(b)caniatáu i berson y mae dyletswydd wedi ei gosod arno o dan is-adran (2) ddirprwyo’r ddyletswydd honno yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i berson a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganlyniadau gwerthusiad wrth gyflawni swyddogaeth a bennir gan y rheoliadau.

(5)Caniateir i ganlyniadau gwerthusiad gael eu defnyddio i benderfynu ar dâl athro neu athrawes ysgol.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weindiogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredigLL+C

24Cod ymddygiad ac ymarferLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau cofrestredig.

(2)Caiff y cod ddarparu ar gyfer safonau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o berson cofrestredig.

(3)Wrth lunio’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn eu barn hwy.

(4)Rhaid i’r Cyngor adolygu’r cod a gwneud unrhyw ddiwygiadau iddo sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)cyn pen 3 blynedd ar ôl pob dyddiad cyhoeddi (o dan is-adran (1) neu (5)), a

(b)pan fydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu.

(5)Ar ôl pob adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r cod mewn dull sydd, ym marn y Cyngor, yn debygol o’i ddwyn i sylw’r personau cofrestredig ac unrhyw un arall a all fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

(6)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I52A. 24 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(m)

I53A. 24 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(l)

25Cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cod a ddisgrifir yn adran 24 ac mewn cysylltiad â’r cod hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y cod, a

(b)canlyniadau unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod, a gaiff gynnwys trafodion disgyblu o dan adran 26.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I55A. 25 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(n)

Swyddogaethau disgyblu’r CyngorLL+C

26Swyddogaethau disgybluLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor gynnal unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol yn ei farn ef mewn achosion—

(a)pan honnir bod person cofrestredig—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(ii)wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol, neu

(b)pan ymddengys i’r Cyngor y gall person cofrestredig fod yn euog yn y fath fodd neu ei fod wedi ei gollfarnu yn y fath fodd.

(2)Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), pa gamau pellach i’w cymryd mewn cysylltiad â’r achos.

(3)Y camau y caiff y Cyngor eu cymryd yw—

(a)os yw o’r farn nad oes achos i’w ateb, peidio â pharhau â’r achos;

(b)os yw o’r farn bod (neu y gall fod) achos i’w ateb—

(i)cynnal gwrandawiad mewn cysylltiad â’r achos, neu

(ii)gyda chydsyniad y person y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef, penderfynu’r achos heb wrandawiad;

(c)peidio â pharhau â’r achos ar ryw sail arall.

(4)Pan fo’r Cyngor yn cynnal gwrandawiad neu fod y person wedi cydsynio i’r achos gael ei benderfynu heb wrandawiad, caiff y Cyngor benderfynu—

(a)nad oes achos i’w ateb;

(b)bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu ei fod wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.

(5)Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person—

(a)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(b)wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol,

caiff y Cyngor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person hwnnw.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan yr adran hon neu gyfyngu arnynt mewn unrhyw ddull a bennir yn y rheoliadau neu y penderfynir arno oddi tanynt.

(7)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (6) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru neu gyfyngu arnynt gyda’r bwriad o roi ystyriaeth i’r pwerau sy’n arferadwy gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I57A. 26 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(o)

27Swyddogaethau disgyblu: dehongliLL+C

(1)At ddibenion adran 26—

  • mae “person cofrestredig” yn cynnwys—

    (a)

    person a oedd wedi ei gofrestru ar adeg unrhyw ymddygiad neu drosedd honedig (p’un ai o dan adran 9 neu o dan adran 3 o Ddeddf 1998), a

    (b)

    person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru felly;

  • ystyr “trosedd berthnasol”, mewn perthynas â pherson cofrestredig, yw—

    (a)

    mewn achos o gollfarn yn y Deyrnas Unedig, trosedd ac eithrio un nad oes ganddi berthnasedd o bwys i addasrwydd y person i fod yn berson cofrestredig yn y categori cofrestru perthnasol;

    (b)

    mewn achos o gollfarn yn rhywle arall, trosedd a fyddai, pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn drosedd fel y’i crybwyllir ym mharagraff (a).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “gorchymyn disgyblu” yw—

(a)cerydd;

(b)gorchymyn cofrestru amodol;

(c)gorchymyn atal dros dro;

(d)gorchymyn gwahardd.

(3)Pan fo rheoliadau o dan baragraff 12(1)(b) o Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu pwyllgor at y diben o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan adran 26, mae cyfeiriadau yn yr adran honno at y Cyngor i’w dehongli yn gyfeiriadau at y pwyllgor hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I59A. 27 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(p)

28Swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau’r Cyngor neu mewn cysylltiad â hwy o dan adran 26.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth, yn benodol, ynghylch—

(a)y weithdrefn sy’n ymwneud ag unrhyw ymchwiliad neu drafodion (gan gynnwys gofynion hysbysu, gorfodi presenoldeb, derbynioldeb tystiolaeth a gweinyddu llwon);

(b)gorchmynion disgyblu (gan gynnwys gofynion cyflwyno, pan fydd gorchmynion yn cymryd effaith ac adolygu gorchmynion);

(c)y camau y caniateir iddi fod yn ofynnol i gyflogwr person sy’n cael gorchymyn disgyblu eu cymryd ac y caniateir iddynt fod yn ofynnol mewn perthynas â’r cyflogwr hwnnw (gan gynnwys diswyddo’r sawl sy’n cael y gorchymyn).

(3)Nid yw i fod yn ofynnol i unrhyw berson yn rhinwedd y rheoliadau o dan yr adran hon roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu unrhyw beth arall na ellid gorfodi’r person hwnnw i’w rhoi neu i’w dangos mewn trafodion sifil mewn unrhyw lys yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I61A. 28 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(q)

29Gorchmynion cofrestru amodolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)O ran y person—

(a)mae’n parhau yn gymwys i’w gofrestru o dan adran 9, ond

(b)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n berthnasol i gyflogaeth y person fel person cofrestredig a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff yr amodau a bennir (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd unrhyw gamau penodedig a fydd, ym marn y Cyngor, yn helpu’r person i ddod yn berson cofrestredig medrus;

(b)ymwneud â gwariant ar ran y person.

(4)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn cofrestru amodol i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(5)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn cofrestru amodol, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i gais o dan is-adran (5) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I63A. 29 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(r)

I64A. 29 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(m)

30Gorchmynion atal dros droLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn (nad yw’n fwy na dwy flynedd).

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu amodau i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy ac, yn yr achos hwnnw—

(a)mae’r person i ddod yn gymwys unwaith eto i’w gofrestru o dan adran 9 ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-adran (3) os yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, a

(b)os nad yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, mae’r person yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru hyd nes y bydd wedi cydymffurfio â’r amodau.

(5)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn atal dros dro i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(6)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn atal dros dro, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(7)Rhaid i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I66A. 30 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(s)

I67A. 30 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(n)

31Gorchmynion gwaharddLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9.

(4)Caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn gwahardd, benderfynu bod person yn gymwys i’w gofrestru unwaith eto.

(5)Rhaid i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

(6)Ni chaniateir i gais o’r fath gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith neu unrhyw gyfnod hwy a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I69A. 31 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(t)

I70A. 31 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(o)

32Apelau yn erbyn gorchmynion disgybluLL+C

(1)Caiff person y mae gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad i’r person.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I72A. 32 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(p)

Dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

33Y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodolLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal unrhyw gofnodion am unrhyw bersonau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)wneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys y cofnodion, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ynghylch personau nad ydynt yn gymwys i’w cofrestru.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I74A. 33 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(u)

34Rhoi gwybodaeth: GweinidogionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â phersonau cofrestredig unigol—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn Gweinidogion Cymru i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

(2)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag athrawon unigol mewn ysgolion—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I76A. 34 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(q)

35Rhoi gwybodaeth: y CyngorLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddynt.

(2)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson cofrestredig, ddarparu i’r person hwnnw gopi o’r wybodaeth a roddwyd yn y gofrestr wrth enw’r person hwnnw.

(3)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson (ac eithrio person cofrestredig) y mae’n cynnal cofnodion mewn cysylltiad ag ef yn unol ag adran 33, ddarparu i’r person hwnnw gopi o unrhyw gofnodion y mae’n eu cadw amdano.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth—

(a)i unrhyw berson neu gorff arall a bennir, a

(b)at unrhyw ddibenion ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I78A. 35 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(v)

36Rhoi gwybodaeth: cyflogwyrLL+C

(1)Rhaid i gyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor—

(a)enw unrhyw berson cofrestredig y mae’n ei gyflogi neu y mae’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru, a

(b)unrhyw wybodaeth arall am unrhyw berson cofrestredig sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Cyngor mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau.

(2)Pan fo cyflogwr perthnasol—

(a)yn peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(b)wedi gallu peidio â defnyddio gwasanaethau’r person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3) pe na bai’r person hwnnw wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

rhaid i’r cyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Y seiliau yw—

(a)ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(b)anghymhwysedd proffesiynol;

(c)collfarn am drosedd berthnasol.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyflogwr perthnasol” yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru;

  • mae i “trosedd berthnasol” yr un ystyr ag yn adran 27(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I80A. 36 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(w)

37Rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i drefniadau a wneir gan un person (yr “asiant”) i berson cofrestredig ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (p’un ai o dan gontract ai peidio).

(2)Pan fo asiant—

(a)wedi terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3),

(b)wedi gallu terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi eu terfynu, neu

(c)wedi gallu atal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer y person cofrestredig ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi peidio â chynnig darparu’r gwasanaethau,

rhaid i’r asiant ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon, mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I82A. 37 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(x)

38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—

(a)bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu

(b)bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.

(4)Yn yr adran hon—

  • mae “asiant” i’w ddehongli yn unol ag adran 37;

  • mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I84A. 38 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(r)

Darpariaeth drosiannol a darfodolLL+C

39Trosglwyddo cofrestriadau personau sydd eisoes wedi eu cofrestruLL+C

(1)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, a

(b)fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o’r Ddeddf hon.

(2)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ond

(b)na fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru ar sail dros dro yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I86A. 39 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(s)

40Materion darfodol sy’n ymwneud â chymhwystra i gofrestruLL+C

At ddibenion adran 10(3)—

(a)mae person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu etc.) yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru, a

(b)mae cyfeiriad at orchymyn disgyblu o dan y Ddeddf hon yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn disgyblu cyfatebol a wnaed o dan Ddeddf 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I88A. 40 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(s)

Dehongli Rhan 2LL+C

41Dehongli Rhan 2LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae “categori cofrestru” (“category of registration”) i’w ddehongli yn unol ag adran 9(3);

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9(1);

  • “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw’r gwasanaethau y caniateir iddynt gael eu darparu gan berson cofrestredig yn unig;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw (yn ddarostyngedig i adran 27) person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a sefydlir o dan adran 9 (gan gynnwys y rhai sydd wedi eu cofrestru ar sail dros dro);

  • mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf 2002.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson yn cael ei gofrestru dros dro (sut bynnag y’i mynegir) yn gyfeiriad at berson sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I90A. 41 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(y)

RHAN 3LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL

Dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgolLL+C

42Dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgolLL+C

Ar ôl adran 32 o Ddeddf 2002, mewnosoder—

32AResponsibility for fixing term and holiday dates in Wales

(1)A local authority in Wales must determine the term dates for each community, voluntary controlled or community special school or maintained nursery school in its area.

(2)A governing body of a foundation or voluntary aided school in Wales (a “relevant governing body”) must determine the term dates for its school.

(3)In exercising its functions under subsection (1), a local authority must co-operate and co-ordinate with—

(a)each relevant governing body in its area, and

(b)every other local authority in Wales,

to ensure that the term dates determined are the same (or as similar as can be) for every maintained school in Wales.

(4)In exercising its functions under subsection (2), a relevant governing body must co-operate and co-ordinate with—

(a)the local authority, and

(b)every other relevant governing body in the local authority’s area,

to ensure that the term dates determined are the same (or as similar as can be) for every maintained school in Wales.

(5)Each local authority in Wales must notify the Welsh Ministers of the term dates which have been determined for a school year in respect of all the maintained schools in its area.

(6)The Welsh Ministers may by regulations make provision about the requirements of notification under subsection (5) including, in particular, provision about—

(a)the form and content of notifications;

(b)the period in which notification must be given;

(c)the procedure for notification.

(7)A local authority or a relevant governing body may alter the term dates which have been notified to the Welsh Ministers only if all the parties mentioned in subsection (8) agree to the alteration.

(8)The parties are—

(a)the local authority,

(b)each relevant governing body in the local authority’s area, and

(c)the Welsh Ministers.

(9)In this section—

  • “maintained school” means a school in Wales which is a community, foundation or voluntary school, a community special school or a maintained nursery school;

  • “term dates” means the dates on which the school terms and holidays are to begin and end.

32BWelsh Ministers’ power to direct determination of term dates

(1)The Welsh Ministers may direct a local authority in Wales or a relevant governing body to determine such term dates for a maintained school in Wales as may be specified in the direction.

(2)A direction under subsection (1) may, in particular—

(a)require different dates to be determined for different schools;

(b)be made in respect of such descriptions of schools as may be specified in the direction (for example, all community schools or all schools within a specified area);

(c)require the determination of different dates from those already determined or altered under section 32A.

(3)Before making a direction under subsection (1) the Welsh Ministers must carry out such consultation as they consider appropriate.

(4)The Welsh Ministers may, by regulations, make such further provision about such consultation as they consider necessary or expedient.

(5)The Welsh Ministers must publish a direction under subsection (1) electronically.

(6)In this section—

  • “maintained school” has the same meaning as in section 32A(9);

  • “relevant governing body” means the governing body of a foundation or voluntary aided school in Wales;

  • “term dates” means the dates on which the school terms and holidays are to begin and end.

32CResponsibility for fixing times of school sessions in Wales

(1)Except in the circumstances described in subsection (2), a governing body of a maintained school must determine the times of the school sessions for the school.

(2)The circumstances are—

(a)that the local authority in whose area the school is situated have given notice to the governing body that the times of the school sessions are to be determined in accordance with subsection (4), and

(b)that the notice has not been withdrawn by the local authority.

(3)A local authority must not give a notice under this section unless they consider that a change in the times of the school sessions is necessary or expedient in order to—

(a)promote the use of sustainable modes of travel within the meaning of section 11 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008 (nawm 2), or

(b)improve the effectiveness or efficiency of travel arrangements made, or to be made, by the authority under that Measure.

(4)In the circumstances described in subsection (2)—

(a)where there are 2 sessions on the relevant school day—

(i)the local authority must determine the time each day at which the first school session starts and the second school session ends, and

(ii)the governing body must determine the time each day at which the first school session ends and the second school session starts,

(b)where there is one school session on the relevant school day the local authority must determine the time each day at which the school session starts and ends.

(5)The Welsh Ministers may by regulations make provision—

(a)as to the procedure to be followed where the governing body of a community, voluntary controlled or community special school or maintained nursery school proposes to make any change in the time of the school sessions;

(b)as to the implementation of any such proposal;

(c)for enabling the local authority to determine, for any purposes of the regulations, whether any person is to be treated as a parent of a registered pupil at the school;

(d)as to the procedure to be followed where the local authority propose to give a notice under this section;

(e)as to the form and content of such a notice;

(f)as to the implementation of a determination made under subsection (4).

(6)A local authority must have regard to any guidance given by the Welsh Ministers when giving a notice under subsection (2) or discharging any function conferred by this section or regulations made under it.

(7)In this section—

  • “maintained school” means a school in Wales which is a community, foundation or voluntary school, a community special school or a maintained nursery school;

  • “the times of the school sessions” means the times at which each of the school sessions or, if there is only one, the school session, is to begin and end on any day..

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 42 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol at ddibenion penodedig, gweler a. 50(2)

I92A. 42 mewn grym ar 14.7.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(a)

Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng NghymruLL+C

43Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng NghymruLL+C

Yn adran 19 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), hepgorer is-adran (6) (Gweinidogion Cymru i gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol ar argymhellion i’w Mawrhydi ar arfer pwerau penodi a diswyddo o dan is-adrannau (1), (2) a (4)(c)).

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I94A. 43 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 3

Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol - ymyrrydLL+C

44Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddirLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan y person penodedig..

(3)Yn adran 26 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai..

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I96A. 44 mewn grym ar 14.7.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(b)

RHAN 4LL+CDARPARIAETH GYFFREDINOL

45Statws fel Deddf AddysgLL+C

Mae’r Ddeddf hon i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I97A. 45 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(b)

46Darpariaeth ategolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I98A. 46 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(c)

47Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) yn arferadwy drwy offeryn statudol ac mae’n cynnwys y pŵer i—

(a)gwneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol gan gynnwys, yn benodol, gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall)—

(a)gorchymyn o dan adran 5;

(b)gorchymyn o dan adran 10(6);

(c)rheoliadau o dan adran 12;

(d)gorchymyn o dan adran 46 sy’n cynnwys darpariaeth sy’n ychwanegu at destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn diwygio’r testun neu’n ei hepgor;

(e)gorchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 1 neu baragraff 2 o Atodlen 2,

gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) i fod yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 47 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(d)

48Mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I101A. 48 mewn grym ar 14.7.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(c)

I102A. 48 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(t)

49Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae “addasu“ (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio neu ddiddymu;

  • ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996 (p. 56);

  • ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30);

  • ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002 (p. 32);

  • ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y cawsant eu deddfu neu eu gwneud)—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan un o Fesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru);

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon.

(2)Mae i ymadroddion eraill, os defnyddir hwy yn y Ddeddf hon ac yn Neddf 1996, yr un ystyr yn y Ddeddf hon ag yn Neddf 1996.

(3)Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 49 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(e)

50CychwynLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 1;

(b)adran 45;

(c)adran 46;

(d)adran 47;

(e)adran 49;

(f)yr adran hon;

(g)adran 51.

(2)Daw adran 42 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond i’r graddau y mae ei hangen er mwyn i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 32A(6) neu 32B(4) o Ddeddf 2002.

(3)Daw paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(4)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I104A. 50 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(f)

51Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 51 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(g)

(cyflwynwyd gan adran 2(2))

ATODLEN 1LL+CCYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG

StatwsLL+C

1(1)O ran y Cyngor,—

(a)nid yw’n was nac yn asiant i’r Goron, a

(b)nid oes ganddo statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Cyngor yn eiddo i’r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I107Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

PwerauLL+C

2(1)Caiff y Cyngor wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny neu’n ffafriol i hynny.

(2)Yn benodol, caiff y Cyngor—

(a)caffael a gwaredu tir neu eiddo arall;

(b)ymrwymo i gontractau;

(c)buddsoddi symiau nad oes eu hangen ar unwaith at ddiben cyflawni ei swyddogaethau;

(d)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall;

(e)ffurfio cyrff corfforaethol neu gysylltiedig neu gyrff eraill nad ydynt yn gyrff corfforaethol;

(f)ymrwymo i fentrau ar y cyd â phersonau eraill;

(g)tanysgrifio am gyfranddaliadau a stoc;

(h)cael benthyg arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I109Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

AelodaethLL+C

3(1)Mae’r Cyngor i gael 14 o aelodau.

(2)Ond caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy orchymyn i bennu bod y Cyngor i gael—

(a)nifer gwahanol o aelodau, neu

(b)isafswm ac uchafswm penodedig o aelodau.

(3)Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau.

(4)Wrth i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag aelodaeth y Cyngor, rhaid iddynt—

(a)rhoi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod yr aelodaeth honno yn cynnwys personau â’r profiad a’r sgiliau y mae eu hangen i alluogi’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol, a

(b)sicrhau bod y mwyafrif o aelodau’r Cyngor yn bersonau cofrestredig, neu wedi bod yn bersonau cofrestredig yn ddiweddar.

(5)Mae aelodau i weithredu fel unigolion (hynny yw, nid ydynt i weithredu fel cynrychiolwyr unrhyw sefydliad neu gorff y gallant fod yn perthyn iddo, nac unrhyw berson, sefydliad neu gorff sydd wedi eu henwebu).

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I111Atod. 1 para. 3(1)-(4)(a)(5) mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(i)

I112Atod. 1 para. 3(1)-(4)(a)(5) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

I113Atod. 1 para. 3(4)(b) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Aelodaeth: darpariaeth bellachLL+C

4(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynglŷn ag aelodau a’u penodi.

(2)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn, yn benodol, gynnwys darpariaeth am—

(a)cymhwystra person i gael ei benodi;

(b)y weithdrefn benodi;

(c)llenwi unrhyw leoedd gwag yn yr aelodaeth sy’n codi ac eithrio ar ddiwedd tymor swydd aelod.

(3)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I115Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(ii)

DeiliadaethLL+C

5(1)Tymor swydd aelod yw unrhyw gyfnod hyd at 5 mlynedd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu wrth benodi’r aelod hwnnw.

(2)Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif swyddog y Cyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I117Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(iii)

DiswyddoLL+C

6(1)Caniateir i aelod gael ei ddiswyddo drwy bleidlais fwyafrifol gan yr aelodau eraill os yw’r aelod, heb reswm dilys—

(a)wedi bod yn absennol o 3 chyfarfod o’r Cyngor yn olynol, neu

(b)wedi bod yn absennol o gyfarfodydd am gyfnod o 6 mis neu fwy, gan ddechrau ar y dyddiad yr aeth yr aelod i gyfarfod o’r Cyngor ddiwethaf.

(2)Cyn i unrhyw bleidlais gael ei chymryd i ddiswyddo aelod, rhaid i’r aelod gael cyfle i wneud sylwadau llafar i’r Cyngor.

(3)Bydd person yn peidio â bod yn aelod—

(a)os yw’r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;

(b)os yw’r person wedi ei wahardd rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes yn rhinwedd gorchymyn gwahardd o dan adran 141B o Ddeddf 2002;

(c)os yw’r person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 yn rhinwedd gorchymyn disgyblu a wneir mewn cysylltiad â’r person hwnnw o dan adran 26;

(d)os yw’r person wedi ei anghymwyso rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol yn rhinwedd gorchymyn wedi ei wneud—

(i)gan Dribiwnlys Ysgolion Annibynnol o dan adran 470 o Ddeddf 1996, neu

(ii)gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 471 o’r Ddeddf honno; neu

(e)os yw’r person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi ei anghymwyso rhag bod yn athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach, mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I119Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(iv)

Tâl, lwfansau a threuliau aelodauLL+C

7(1)Caiff y Cyngor—

(a)talu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau y mae’n penderfynu arnynt i’w aelodau, a

(b)talu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw symiau fel pensiwn, lwfans ac arian rhodd i aelod, neu mewn cysylltiad ag aelod, y mae’n penderfynu arnynt.

(2)Os yw person yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor a’i bod yn ymddangos i’r Cyngor bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn briodol i’r person hwnnw dderbyn digollediad, caiff y Cyngor wneud taliad o unrhyw swm y mae’n penderfynu arno i’r person hwnnw.

(3)Caiff y Cyngor dalu unrhyw dreuliau a lwfansau y mae’n penderfynu arnynt i aelodau unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

(4)Caiff y Cyngor dalu i gyflogwr person sy’n aelod o’r Cyngor (neu berson nad yw’n aelod o’r Cyngor ond sy’n aelod o unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau) unrhyw ddigollediad y mae’n penderfynu arno mewn cysylltiad â cholli gwasanaethau’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I121Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(v)

Aelod-gadeiryddLL+C

8(1)Rhaid i’r Cyngor ethol aelod-gadeirydd o blith ei aelodaeth.

(2)Mae’r aelod-gadeirydd i ddal y swydd am unrhyw gyfnod y mae’r Cyngor yn penderfynu arno.

(3)Caiff yr aelod-gadeirydd—

(a)ymddiswyddo fel aelod-gadeirydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif swyddog y Cyngor, a

(b)cael ei ddiswyddo fel aelod-gadeirydd drwy bleidlais â mwyafrif o ddwy ran o dair gan yr aelodau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I123Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Prif swyddog a staff eraillLL+C

9(1)Rhaid i’r Cyngor gael prif swyddog.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi prif swyddog, gan gynnwys, yn benodol—

(a)pennu pwy sydd i benodi’r prif swyddog;

(b)y weithdrefn ar gyfer y penodiad hwnnw;

(c)sut y mae telerau ac amodau’r prif swyddog (gan gynnwys tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) i gael eu penderfynu.

(3)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.

(4)Caiff y Cyngor benodi unrhyw gyflogeion eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(5)Mae cyflogeion (ac eithrio’r prif swyddog) i gael eu penodi ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) y mae’r Cyngor yn penderfynu arnynt.

(6)Caiff y Cyngor—

(a)talu pensiynau neu arian rhodd, neu wneud taliadau mewn cysylltiad â hwy, i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy;

(b)darparu a chynnal cynlluniau (p’un a ydynt yn gyfrannol ai peidio) ar gyfer talu pensiynau ac arian rhodd i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy.

(7)Mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at bensiynau ac arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau ac arian rhodd i ddigolledu cyflogeion sy’n colli cyflogaeth neu sy’n dioddef colled neu leihad o ran enillion, neu mewn cysylltiad â’r cyflogeion hynny.

(8)Os—

(a)yw unrhyw berson, ar beidio â bod yn gyflogedig gan y Cyngor, yn dod yn aelod o’r Cyngor, neu’n parhau i fod yn aelod o’r Cyngor, a

(b)oedd y person hwnnw, drwy gyfeirio at ei gyflogaeth, yn gyfranogwr mewn cynllun pensiwn a gynhelir gan y Cyngor,

caiff y Cyngor wneud darpariaeth i’r person hwnnw barhau i gyfranogi yn y cynllun hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau y mae’n penderfynu arnynt, fel pe bai gwasanaeth y person fel aelod yn wasanaeth fel cyflogai; ac nid yw unrhyw ddarpariaeth o’r fath i ragfarnu paragraff 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I125Atod. 1 para. 9(1)-(3) mewn grym ar 18.8.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(vi)

I126Atod. 1 para. 9(1)-(3) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

I127Atod. 1 para. 9(4)-(8) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Cynlluniau yn ymwneud â thâl etcLL+C

10(1)Rhaid i’r Cyngor—

(a)llunio cynllun sy’n nodi ei ddull o benderfynu ar y symiau y caiff eu talu—

(i)i aelodau o dan baragraff 7, a

(ii)i gyflogeion o dan baragraff 9 (gan gynnwys y prif swyddog os yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9(2)(c) yn gwneud hynny’n ofynnol), a

(b)cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Dim ond yn unol â chynllun y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gymeradwyo o dan y paragraff hwn y caiff y Cyngor benderfynu ar y symiau y mae’n eu talu i aelodau a chyflogeion.

(3)Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru yn y modd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu.

(4)Caiff y Cyngor ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd (ac os felly, mae is-baragraffau (1)(b), (2) a (3) yn gymwys i’r cynllun diwygiedig hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I129Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Cymhwystra ar gyfer y cynllun blwydd-daliadauLL+C

11(1)Mae cyflogaeth gyda’r Cyngor ymhlith y mathau o gyflogaeth y gall cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau blwydd-daliadau o ran gweision sifil ac ati) fod yn gymwys iddi.

(2)Rhaid i’r Cyngor dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, unrhyw symiau y mae’r Gweinidog yn penderfynu arnynt mewn cysylltiad â’r cynnydd sydd i’w briodoli i is-baragraff (1) yn y symiau sy’n daladwy o’r arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig o dan y Ddeddf honno.

(3)Pan fo cyflogai’r Cyngor, drwy gyfeirio at y gyflogaeth honno, yn gyfranogwr mewn cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a hefyd yn aelod o’r Cyngor, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu bod gwasanaeth y person fel aelod i gael ei drin at ddibenion y cynllun fel gwasanaeth fel cyflogai (p’un a oes budd-daliadau yn daladwy iddo neu mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd paragraff 7 ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I131Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Pwyllgorau’n gyffredinolLL+C

12(1)O ran y Cyngor,—

(a)caiff sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben, a

(b)os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny’n ofynnol, rhaid iddo sefydlu unrhyw bwyllgorau at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau;

(ond gweler hefyd baragraffau 19 ac 20).

(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y Cyngor,—

(a)caiff benderfynu ar nifer yr aelodau y mae pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn i’w cael, a

(b)rhaid iddo benderfynu ar y telerau y mae’r aelodau hynny i fod yn y swydd a gadael y swydd yn unol â hwy.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) wneud darpariaeth ynghylch—

(a)aelodaeth pwyllgor a sefydlir o dan y rheoliadau;

(b)y telerau y mae aelodau’r pwyllgor hwnnw i adael y swydd yn unol â hwy;

(c)gweithdrefn y pwyllgor hwnnw.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) hefyd awdurdodi’r Cyngor i wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater y caniateir i ddarpariaeth gael ei gwneud gan y rheoliadau hynny mewn perthynas â hi.

(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan reoliadau sydd wedi eu gwneud o dan is-baragraff (1)(b), caiff y Cyngor gynnwys ar bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I133Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(vii)

Dirprwyo swyddogaethauLL+C

13(1)Caiff y Cyngor awdurdodi’r aelod-gadeirydd neu unrhyw bwyllgor sydd wedi ei sefydlu o dan baragraff 12 i arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar—

(a)cyfrifoldeb y Cyngor am arfer y swyddogaethau dirprwyedig, neu

(b)gallu’r Cyngor i arfer y swyddogaethau dirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I135Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

TrafodionLL+C

14(1)Caiff y Cyngor reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau (ac eithrio i’r graddau y mae’r Atodlen hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn darparu fel arall).

(2)Nis effeithir ar ddilysrwydd trafodion y Cyngor gan—

(a)unrhyw swyddi gwag o ran ei aelodau;

(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi aelod;

(c)anghymwyso person fel aelod ar ôl ei benodi.

(3)Rhaid i’r Cyngor roi unrhyw gopïau o unrhyw ddogfennau a ddosberthir i’w aelodau neu ei bwyllgorau i Weinidogion Cymru y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I137Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Gosod y sêlLL+C

15Mae’r weithred o osod sêl y Cyngor i gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)yr aelod-gadeirydd neu ryw berson arall sydd wedi ei awdurdodi’n gyffredinol neu’n benodol gan y Cyngor i weithredu at y diben hwnnw, a

(b)un aelod arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I139Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Profi dogfennauLL+C

16Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn offeryn sydd wedi ei wneud neu ei ddyroddi gan y Cyngor neu ar ei ran ac sydd i gael ei weithredu’n briodol o dan sêl y Cyngor, neu sydd i gael ei lofnodi neu ei weithredu gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan y Cyngor i weithredu ar ei ran yn hynny o beth, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a’i thrin, heb brawf pellach, fel ei bod wedi ei gwneud neu ei dyroddi felly oni ddangosir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I141Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

CyllidLL+C

17Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i’r Cyngor o unrhyw symiau ac yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran ad-dalu) y maent yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I143Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Swyddog cyfrifydduLL+C

18(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi person i weithredu fel swyddog cyfrifyddu’r Cyngor.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Cyngor, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae cyfrifoldebau—

(a)mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Cyngor;

(c)am sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Cyngor ddefnyddio ei adnoddau;

(d)sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I145Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Pwyllgor archwilioLL+C

19(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—

(a)adolygu materion ariannol y Cyngor a chraffu arnynt,

(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Cyngor,

(c)adolygu ac asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Cyngor, a

(d)gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).

(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i gyflawni ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I147Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Pwyllgor archwilio: aelodaethLL+C

20(1)Mae’r pwyllgor archwilio i gynnwys—

(a)o leiaf ddau aelod o’r Cyngor, a

(b)o leiaf un aelod lleyg.

(2)Ni chaiff aelod-gadeirydd y Cyngor fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.

(3)Caiff y Cyngor dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau i aelod lleyg y mae’n penderfynu arnynt.

(4)Rhaid i’r Cyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson nad yw’n aelod o’r Cyngor nac yn gyflogai iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I148Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I149Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Cyfrifon ac archwilio allanolLL+C

21(1)Rhaid i’r Cyngor—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

(2)Wrth lunio datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)ffurf a chynnwys cyfrifon o’r fath;

(b)y dulliau ac egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Cyngor gyflwyno copi o’i ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl cyflwyno’r copi o dan is-baragraff (3), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

(5)Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I151Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Adroddiadau blynyddolLL+C

22(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Cyngor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y ffordd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Caiff y Cyngor gyhoeddi’r adroddiad mewn unrhyw ffordd sy’n briodol yn ei farn ef (gan gynnwys yn electronig).

Gwybodaeth Cychwyn

I152Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I153Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

(cyflwynwyd gan adran 9(3))

ATODLEN 2LL+CCATEGORÏAU COFRESTRU

1LL+CMae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.

TABL 1

CategoriDisgrifiad
Athro neu athrawes ysgolPerson sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol [F1Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.]
Athro neu athrawes addysg bellachPerson sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellachPerson F2... sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
[F3Gweithiwr ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—

(a)

yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(b)

fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–

(c)

yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(d)

fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. ]
[F4Athro neu athrawes ysgol annibynnol Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnolPerson sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolPerson sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnolPerson sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I155Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(z)

I156Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.1.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1688, ergl. 2(c)

Newid categorïau gweithiwr cofrestredigLL+C

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru (neu’r disgrifiad o gategori), a chaiff hynny gynnwys, ymhlith pethau eraill, ychwanegu categori cofrestru sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol (o fewn ystyr “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996), a diwygio neu ddileu categori o’r fath.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud unrhyw ddarpariaeth am y categori cofrestru newydd, neu mewn cysylltiad ag ef, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

(3)Yn benodol, caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) bennu’r gwasanaethau na chaiff person eu darparu oni bai bod y person—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion a bennir, a

(b)wedi ei gofrestru.

(4)Caiff gorchymyn sy’n pennu gwasanaethau at ddibenion is-baragraff (3) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

(b)yr amgylchiadau y cyflawnir gweithgareddau ynddynt.

(5)Caiff gofyniad gorchymyn o’r fath ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfio ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Caiff gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwn addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I158Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(v)

DehongliLL+C

[F53Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—

    (a)

    ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a

    (b)

    er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;

  • [F6gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;

  • gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;]

  • “gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—

    (a)

    a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a

    (b)

    syʼn hybu—

    (i)

    datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu

    (ii)

    ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;

  • “gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—

    (a)

    cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;

    (b)

    asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;

  • [F6mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);]

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw—

    (a)

    ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

    (b)

    ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.]

  • [F6mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.]

(cyflwynwyd gan adran 48)

ATODLEN 3LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Addysg 2002 (p. 32)LL+C

1(1)Mae Deddf 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 32 (cyfrifoldeb am bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac am bennu amserau sesiynau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ar ôl “school” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’r gair yn ymddangos, mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “subject to subsections (5) to (9),”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)ar ôl “school” y tro cyntaf y mae’r gair yn ymddangos, mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “subject to subsections (5) to (9)”;

(c)hepgorer is-adrannau (5) i (10);

(d)yn unol â hynny, pennawd adran 32 bellach fydd “Responsibility for fixing dates of terms and holidays and times of sessions: England”.

(3)Yn adran 131(1) (gwerthuso athrawon ysgol), ar ôl “teachers” mewnosoder “in England”.

(4)Yn adran 132 (statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig), yn lle “General Teaching Council for Wales” rhodder “Education Workforce Council”.

(5)Yn adran 133(1) (gofyniad i fod yn gymwysedig), ar ôl “school” mewnosoder “in England”.

(6)Yn adran 210(6A) (gorchmynion a rheoliadau), yn lle “32(9)” rhodder “32C(5)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I161Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I162Atod. 3 para. 1(1)(2)(6) mewn grym ar 14.7.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(d)

I163Atod. 3 para. 1(1)(2)(6) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(w)

I164Atod. 3 para. 1(4)(5) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(w)

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1)LL+C

2Yn Atodlen 4 i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ym mharagraff 8, yn lle “Atodlen 13 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998” rhodder “reoliadau a wneir o dan adran 31 o Ddeddf Addysg 2002 (rheoli mangreoedd ysgol)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 12.7.2014, gweler a. 50(3)

I166Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(w)

RHAN 2LL+CDIDDYMIADAU

3LL+CMae’r deddfiadau a nodir yn y golofn gyntaf wedi eu diddymu i’r graddau a nodir yn yr ail golofn.

TABL 2

DeddfiadGraddau’r diddymiad
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30)Adrannau 1 i 15.
Adran 19.
Atodlen 1.
Atodlen 2.
Deddf Addysg 2002 (p. 32)Adran 131(7).
Adran 134.

Gwybodaeth Cychwyn

I167Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I168Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 3(x) (ynghyd ag ergl. 4)

(cyflwynwyd gan adran 1)

ATODLEN 4LL+CMYNEGAI O EIRIAU AC YMADRODDION WEDI EU DIFFINIO

Gwybodaeth Cychwyn

I169Atod. 4 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(a)

I170Atod. 4 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(aa)

O ran y geiriau a’r ymadroddion yng ngholofn gyntaf tabl 3—

(a)mae’r geiriau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol wedi eu nodi yn yr ail golofn, a

(b)maent wedi eu diffinio gan neu maent, yn ôl y digwydd, i gael eu dehongli yn unol â’r darpariaethau yn y Ddeddf hon sydd wedi eu rhestru yn y drydedd golofn.

TABL 3

Gair neu ymadrodd Gair neu ymadrodd yn y SaesnegDarpariaeth berthnasol
AddasuModifyAdran 49
Addysg (yn adrannau 15 ac 16)Education (in sections 15 & 16)Adrannau 15, 16
AsiantAgentAdran 37
Athro neu athrawes addysg bellachFurther education teacherAtodlen 2
[F7Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Independent special post-16 institution teacherAtodlen 2]
Athro neu athrawes ysgolSchool teacherAtodlen 2
[F7Athro neu athrawes ysgol annibynnol Independent school teacherAtodlen 2]
Blwyddyn ariannol (yn Atodlen 1)Financial year (in Schedule 1)Paragraff 21(5) o Atodlen 1
Categori cofrestruCategory of registrationAdran 41(1)
Corff priodolAppropriate bodyAdran 21
Cyflog (yn adran 12)Salary (in section 12)Adran 12
Cyflogwr perthnasolRelevant employerAdran 36 (4)
Cyfnod sefydluPeriod of inductionAdran 22(3)
Cyngor y Gweithlu AddysgEducation Workforce CouncilAdran 2
Deddf 19961996 ActAdran 49
Deddf 19981998 ActAdran 49
Deddf 20022002 ActAdran 49
Deddf 20132013 ActAdran 49
DeddfiadEnactmentAdran 49
[F7Dysgu seiliedig ar waith Work based learningAtodlen 2]
Gorchymyn disgybluDisciplinary orderAdran 27(2)
[F7Gwasanaethau datblygu ieuenctid Youth development servicesAtodlen 2]
Gwasanaethau perthnasolRelevant servicesAdran 41
[F7Gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith Work based learning practitioner servicesAtodlen 2]
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellachFurther education learning support workerAtodlen 2
[F7Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Independent special post-16 institution learning support workerAtodlen 2]
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolSchool learning support workerAtodlen 2
[F7Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol Independent school learning support workerAtodlen 2
Gweithiwr cymorth ieuenctid Youth support workerAtodlen 2
Gweithiwr ieuenctidYouth workerAtodlen 2]
Materion perthnasol (yn adran 7)Relevant matters (in section 7)Adran 7
Pennaeth perthnasolRelevant principalAdran 21
PenodedigSpecifiedAdran 49
Person cofrestredigRegistered personAdran 41(1) (gweler hefyd adran 27(1)
Proffesiwn cofrestradwy (yn adrannau 4 ac 8)Registrable profession (in sections 4 & 8)Adran 8
Sefydliad addysg bellachFurther education institutionAdran 41(1)
[F7Sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Independent special post-16 institutionAtodlen 2]
Trosedd berthnasolRelevant offenceAdran 27(1)
Y CyngorThe CouncilAdran 2(1)(b)
Y gofrestrThe registerAdran 41(1)
[F7Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith Work based learning practitionerAtodlen 2]
Ysgol (yn adrannau 14, 23 ac Atodlen 2)School (in sections 14, 23 & Schedule 2)Adrannau 14(6), 23(7), paragraff 3 o Atodlen 2
[F7Ysgol annibynnol Independent schoolAtodlen 2]
Ysgol berthnasol a gynhelir (yn adran 22(3))Relevant maintained school (in section 22(3))Adran 22(3)

Diwygiadau Testunol

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources