RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Darparu cyngor a hybu gyrfaoedd
7Darparu cyngor gan y Cyngor
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu cyngor—
(a)
iddynt hwy ar—
(i)
mater perthnasol, neu
(ii)
unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag addysgu neu ddysgu, a
(b)
i berson arall ar fater perthnasol.
(2)
At ddibenion yr adran hon, y “materion perthnasol” yw—
(a)
safonau gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig;
(b)
safonau ymddygiad ar gyfer personau cofrestredig;
(c)
addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer;
(d)
rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru;
(e)
statws pob un o’r proffesiynau hynny;
(f)
hyfforddi, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig;
(g)
recriwtio personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru a’u cadw;
(h)
y cyflenwad o bersonau cofrestredig.
(3)
Caiff y Cyngor hefyd ddarparu unrhyw gyngor sy’n briodol yn ei farn ef ar faterion perthnasol i unrhyw bersonau y mae’n penderfynu arnynt.
(4)
Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, bob dau fis, am unrhyw gyngor sydd wedi ei roi ganddo ar faterion perthnasol yn ystod y ddau fis blaenorol, ac am y sawl a gafodd y cyngor hwnnw.
(5)
Rhaid i gyngor a roddir o dan yr adran hon mewn perthynas â materion perthnasol fod o natur gyffredinol.
(6)
Caiff y Cyngor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir ganddo o dan yr adran hon.