RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Cyngor y Gweithlu Addysg

6Cyfarwyddiadau

(1)

Rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (cyffredinol neu benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)

Ni chaniateir i gyfarwyddyd gael ei roi mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)

cais penodol i gofrestru o dan adran 9;

(b)

apêl sy’n ymwneud â chais o’r fath;

(c)

achos disgyblu penodol o dan adran 26.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon mewn unrhyw ddull sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd (ac mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen sy’n amrywio neu’n dirymu cyfarwyddyd fel y mae’n gymwys i gyfarwyddyd).