RHAN 4DARPARIAETH GYFFREDINOL
50Cychwyn
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adran 1;
(b)
adran 45;
(c)
adran 46;
(d)
adran 47;
(e)
adran 49;
(f)
yr adran hon;
(g)
adran 51.
(2)
Daw adran 42 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond i’r graddau y mae ei hangen er mwyn i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 32A(6) neu 32B(4) o Ddeddf 2002.
(3)
Daw paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.
(4)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(5)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—
(a)
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a
(b)
cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.