RHAN 4DARPARIAETH GYFFREDINOL

49Dehongli cyffredinol

(1)

Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

mae “addasu“ (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio neu ddiddymu;

ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996 (p. 56);

ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30);

ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002 (p. 32);

ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y cawsant eu deddfu neu eu gwneud)—

(a)

Deddf Seneddol;

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)

is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan un o Fesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru);

ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon.

(2)

Mae i ymadroddion eraill, os defnyddir hwy yn y Ddeddf hon ac yn Neddf 1996, yr un ystyr yn y Ddeddf hon ag yn Neddf 1996.

(3)

Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf 1996.