RHAN 4DARPARIAETH GYFFREDINOL
46Darpariaeth ategol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani neu mewn cysylltiad â hynny.
(2)
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.