RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Dehongli Rhan 2
41Dehongli Rhan 2
(1)
Yn y Rhan hon, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae “categori cofrestru” (“category of registration”) i’w ddehongli yn unol ag adran 9(3);
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9(1);
“gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw’r gwasanaethau y caniateir iddynt gael eu darparu gan berson cofrestredig yn unig;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw (yn ddarostyngedig i adran 27) person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a sefydlir o dan adran 9 (gan gynnwys y rhai sydd wedi eu cofrestru ar sail dros dro);
mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf 2002.
(2)
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson yn cael ei gofrestru dros dro (sut bynnag y’i mynegir) yn gyfeiriad at berson sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro.