41Dehongli Rhan 2LL+C
(1)Yn y Rhan hon, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae “categori cofrestru” (“category of registration”) i’w ddehongli yn unol ag adran 9(3);
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9(1);
“gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw’r gwasanaethau y caniateir iddynt gael eu darparu gan berson cofrestredig yn unig;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw (yn ddarostyngedig i adran 27) person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a sefydlir o dan adran 9 (gan gynnwys y rhai sydd wedi eu cofrestru ar sail dros dro);
mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf 2002.
(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson yn cael ei gofrestru dros dro (sut bynnag y’i mynegir) yn gyfeiriad at berson sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 41 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(y)