RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Cyngor y Gweithlu Addysg
4Swyddogaethau’r Cyngor
(1)
Prif swyddogaethau’r Cyngor yw—
(a)
darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r personau y mae’n eu rheoleiddio ac addysgu a dysgu yn unol ag adran 7;
(b)
ymgymryd â gweithgareddau i hybu gyrfaoedd mewn proffesiynau cofrestradwy yn unol ag adran 8;
(c)
sefydlu a chynnal cofrestr yn unol ag adran 9;
(d)
sicrhau bod ganddo’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefydlu personau yn unol ag adran 17 a gwrando apelau mewn perthynas â phenderfyniadau sefydlu yn unol ag adran 19;
(e)
adolygu a diwygio’r cod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ar gyfer personau cofrestredig yn unol ag adran 24;
(f)
ymchwilio i ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac anghymhwysedd proffesiynol a chymryd camau priodol mewn cysylltiad â phersonau cofrestredig yn unol ag adran 26;
(g)
cadw unrhyw wybodaeth ynghylch personau a bennir yn unol ag adran 33 a darparu gwybodaeth i unrhyw gyrff a bennir yn unol ag adran 35.
(2)
Mae gan y Cyngor hefyd y swyddogaethau ychwanegol sydd wedi eu rhoi iddo yn rhinwedd—
(a)
y Ddeddf hon;
(b)
gorchymyn o dan adran 5;
(c)
unrhyw ddeddfiad arall.
(3)
Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i’r Cyngor gan neu o dan y Rhan hon yn arferadwy ganddo o ran Cymru yn unig.