RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Darpariaeth drosiannol a darfodol

39Trosglwyddo cofrestriadau personau sydd eisoes wedi eu cofrestru

(1)

Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)

fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, a

(b)

fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o’r Ddeddf hon.

(2)

Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)

fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ond

(b)

na fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru ar sail dros dro yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9.