xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—

(a)bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu

(b)bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.

(4)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 38 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(r)