RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Dyletswyddau o ran gwybodaeth
36Rhoi gwybodaeth: cyflogwyr
(1)
Rhaid i gyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor—
(a)
enw unrhyw berson cofrestredig y mae’n ei gyflogi neu y mae’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru, a
(b)
unrhyw wybodaeth arall am unrhyw berson cofrestredig sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Cyngor mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau.
(2)
Pan fo cyflogwr perthnasol—
(a)
yn peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3), neu
(b)
wedi gallu peidio â defnyddio gwasanaethau’r person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3) pe na bai’r person hwnnw wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny,
rhaid i’r cyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Y seiliau yw—
(a)
ymddygiad proffesiynol annerbyniol;
(b)
anghymhwysedd proffesiynol;
(c)
collfarn am drosedd berthnasol.
(4)
Yn yr adran hon—
ystyr “cyflogwr perthnasol” yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru;
mae i “trosedd berthnasol” yr un ystyr ag yn adran 27(1).