Deddf Addysg (Cymru) 2014

35Rhoi gwybodaeth: y CyngorLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddynt.

(2)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson cofrestredig, ddarparu i’r person hwnnw gopi o’r wybodaeth a roddwyd yn y gofrestr wrth enw’r person hwnnw.

(3)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson (ac eithrio person cofrestredig) y mae’n cynnal cofnodion mewn cysylltiad ag ef yn unol ag adran 33, ddarparu i’r person hwnnw gopi o unrhyw gofnodion y mae’n eu cadw amdano.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth—

(a)i unrhyw berson neu gorff arall a bennir, a

(b)at unrhyw ddibenion ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 35 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(v)