34Rhoi gwybodaeth: GweinidogionLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â phersonau cofrestredig unigol—
(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu
(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn Gweinidogion Cymru i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.
(2)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag athrawon unigol mewn ysgolion—
(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu
(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 34 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(q)