RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Dyletswyddau o ran gwybodaeth

33Y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol

(1)

At ddibenion y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal unrhyw gofnodion am unrhyw bersonau a bennir yn y rheoliadau.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)

wneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys y cofnodion, a

(b)

ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ynghylch personau nad ydynt yn gymwys i’w cofrestru.