RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
32Apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu
(1)
Caiff person y mae gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.
(2)
Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad i’r person.
(3)
Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.
(4)
Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).