RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
31Gorchmynion gwahardd
(1)
Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.
(2)
Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).
(3)
Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9.
(4)
Caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn gwahardd, benderfynu bod person yn gymwys i’w gofrestru unwaith eto.
(5)
Rhaid i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.
(6)
Ni chaniateir i gais o’r fath gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith neu unrhyw gyfnod hwy a bennir yn y gorchymyn.