Deddf Addysg (Cymru) 2014

29Gorchmynion cofrestru amodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)O ran y person—

(a)mae’n parhau yn gymwys i’w gofrestru o dan adran 9, ond

(b)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n berthnasol i gyflogaeth y person fel person cofrestredig a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff yr amodau a bennir (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd unrhyw gamau penodedig a fydd, ym marn y Cyngor, yn helpu’r person i ddod yn berson cofrestredig medrus;

(b)ymwneud â gwariant ar ran y person.

(4)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn cofrestru amodol i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(5)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn cofrestru amodol, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i gais o dan is-adran (5) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 29 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(r)

I3A. 29 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(m)