RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
27Swyddogaethau disgyblu: dehongli
(1)
At ddibenion adran 26—
mae “person cofrestredig” yn cynnwys—
(a)
person a oedd wedi ei gofrestru ar adeg unrhyw ymddygiad neu drosedd honedig (p’un ai o dan adran 9 neu o dan adran 3 o Ddeddf 1998), a
(b)
person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru felly;
ystyr “trosedd berthnasol”, mewn perthynas â pherson cofrestredig, yw—
(a)
mewn achos o gollfarn yn y Deyrnas Unedig, trosedd ac eithrio un nad oes ganddi berthnasedd o bwys i addasrwydd y person i fod yn berson cofrestredig yn y categori cofrestru perthnasol;
(b)
mewn achos o gollfarn yn rhywle arall, trosedd a fyddai, pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn drosedd fel y’i crybwyllir ym mharagraff (a).
(2)
Yn y Rhan hon, ystyr “gorchymyn disgyblu” yw—
(a)
cerydd;
(b)
gorchymyn cofrestru amodol;
(c)
gorchymyn atal dros dro;
(d)
gorchymyn gwahardd.
(3)
Pan fo rheoliadau o dan baragraff 12(1)(b) o Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu pwyllgor at y diben o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan adran 26, mae cyfeiriadau yn yr adran honno at y Cyngor i’w dehongli yn gyfeiriadau at y pwyllgor hwnnw.