xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cod a ddisgrifir yn adran 24 ac mewn cysylltiad â’r cod hwnnw.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys y cod, a
(b)canlyniadau unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod, a gaiff gynnwys trafodion disgyblu o dan adran 26.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 25 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(n)