RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredig
25Cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cod a ddisgrifir yn adran 24 ac mewn cysylltiad â’r cod hwnnw.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys y cod, a
(b)
canlyniadau unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod, a gaiff gynnwys trafodion disgyblu o dan adran 26.