RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredig

24Cod ymddygiad ac ymarfer

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau cofrestredig.

(2)

Caiff y cod ddarparu ar gyfer safonau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o berson cofrestredig.

(3)

Wrth lunio’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn eu barn hwy.

(4)

Rhaid i’r Cyngor adolygu’r cod a gwneud unrhyw ddiwygiadau iddo sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)

cyn pen 3 blynedd ar ôl pob dyddiad cyhoeddi (o dan is-adran (1) neu (5)), a

(b)

pan fydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu.

(5)

Ar ôl pob adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r cod mewn dull sydd, ym marn y Cyngor, yn debygol o’i ddwyn i sylw’r personau cofrestredig ac unrhyw un arall a all fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

(6)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.