RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredig
23Gwerthuso personau cofrestredig
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berfformiad personau cofrestredig gael ei werthuso—
(a)
mewn dull a bennir gan y rheoliadau, a
(b)
ar adegau a bennir gan y rheoliadau neu y penderfynir arnynt yn unol â hwy.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod dyletswydd ar—
(a)
awdurdod lleol;
(b)
corff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach;
(c)
unrhyw gyflogwr arall personau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol;
(d)
pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad addysg bellach;
(e)
unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb gyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.
(3)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)
ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i werthusiad gael ei gynnal mewn dull sy’n rhoi disgresiwn ar berson a bennir gan y rheoliadau neu a ddewisir neu y penderfynir arno yn unol â hwy;
(b)
caniatáu i berson y mae dyletswydd wedi ei gosod arno o dan is-adran (2) ddirprwyo’r ddyletswydd honno yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i berson a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganlyniadau gwerthusiad wrth gyflawni swyddogaeth a bennir gan y rheoliadau.
(5)
Caniateir i ganlyniadau gwerthusiad gael eu defnyddio i benderfynu ar dâl athro neu athrawes ysgol.
(6)
Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weindiogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.
(7)
Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—
(a)
ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a
(b)
ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.