xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 18/08/2014

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Valid from 16/01/2015

Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredigLL+C

21Sefydlu: dehongliLL+C

At ddibenion adrannau 17 i 20—

  • mae “corff priodol” i’w ddehongli yn unol ag adran 17(2)(d);

  • ystyr “pennaeth perthnasol” yw—

    (a)

    pennaeth ysgol,

    (b)

    pennaeth sefydliad addysg bellach, ac

    (c)

    unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50