RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Cyngor y Gweithlu Addysg

2Cyngor y Gweithlu Addysg

(1)

Mae’r corff corfforaethol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) a elwir Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru—

(a)

i barhau i fodoli, ond

(b)

i newid ei enw i (ac fe’i gelwir o hyn ymlaen yn) “Cyngor y Gweithlu Addysg” (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cyngor”).

(2)

Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a phwerau’r Cyngor) yn cael effaith.