RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredig

19Apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu

(1)

Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad y corff priodol o dan adran 17(2)(d) apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2)

Mae unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl o’r fath yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag apelau o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.