xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y safonau y mae person i’w asesu yn unol â hwy at y diben o benderfynu p’un a yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu o dan adran 17 yn foddhaol ai peidio.
(2)Caniateir i safonau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 18 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(j)
I3A. 18 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(h)