RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Y gofynion sydd i’w bodloni er mwyn darparu gwasanaethau
15Athrawon addysg bellach
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
ddarparu na chaniateir i addysg gael ei darparu gan berson mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai—
(i)
bod gan y person hwnnw gymhwyster penodedig, a
(ii)
bod y person hwnnw wedi ei gofrestru yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach;
(b)
pennu amodau y mae rhaid i berson sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru gydymffurfio â hwy neu y mae rhaid cydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu nad yw darpariaeth benodedig yn y rheoliadau i fod yn gymwys pan fo amod penodedig (a gaiff gyfeirio at farn person penodedig) wedi ei fodloni.
(3)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod swyddogaeth ar—
(a)
awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)
corff llywodraethu (o fewn ystyr “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)) sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
(4)
At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.