Deddf Addysg (Cymru) 2014

15Athrawon addysg bellachLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ddarparu na chaniateir i addysg gael ei darparu gan berson mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai—

(i)bod gan y person hwnnw gymhwyster penodedig, a

(ii)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach;

(b)pennu amodau y mae rhaid i berson sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru gydymffurfio â hwy neu y mae rhaid cydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu nad yw darpariaeth benodedig yn y rheoliadau i fod yn gymwys pan fo amod penodedig (a gaiff gyfeirio at farn person penodedig) wedi ei fodloni.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod swyddogaeth ar—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu (o fewn ystyr “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)) sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 15 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(h)