RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Y gofynion sydd i’w bodloni er mwyn darparu gwasanaethau

14Athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person ddarparu gwasanaethau penodedig mewn ysgol oni bai—

(a)

bod y person—

(i)

yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig (gweler adran 132 o Ddeddf 2002), neu

(ii)

yn bodloni gofynion penodedig, a

(b)

bod y person wedi ei gofrestru mewn categori cofrestru penodedig.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n pennu gwasanaethau at ddiben yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)

un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

(b)

yr amgylchiadau ar gyfer cynnal gweithgareddau.

(3)

Caniateir i ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd is-adran (2) gael ei wneud, yn benodol, drwy gyfeirio at weithgaredd a bennir mewn dogfen o’r math a grybwyllir yn adran 124(3) o Ddeddf 2002.

(4)

Caniateir i ofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)

meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)

cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)

cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)

arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(5)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gyfyngu ar y cyfnod amser a ganiateir er mwyn i waith gael ei ddarparu gan berson yn ddibynnol ar is-adran (1)(a)(ii).

(6)

Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)

ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)

ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.