Deddf Addysg (Cymru) 2014

13Cofrestru: darpariaeth bellachLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y gofrestr a chofrestru sy’n briodol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y gofrestr;

(b)y ffurf a’r dull ar gyfer gwneud cais i gofrestru;

(c)y ddogfennaeth a thystiolaeth arall sydd i fynd gyda cheisiadau;

(d)sut i roi gwybod i geisydd am—

(i)y penderfyniad o ran p’un ai i gymeradwyo neu i wrthod cais i gofrestru, a

(ii)yn achos gwrthod cofrestru, y sail ar gyfer gwrthod y cais a hawl y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad;

(e)y materion sydd i’w cofnodi yn y gofrestr yn erbyn enwau’r rhai hynny sydd wedi eu cofrestru ynddi;

(f)ailosod cofnodion a’u newid;

(g)dileu cofnodion o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau hynny a bennir yn y rheoliadau;

(h)dyroddi tystysgrifau cofrestru a ffurf y tystysgrifau hynny;

(i)yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr y caniateir iddi fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni a’r amgylchiadau hynny pan ganiateir i’r wybodaeth honno fod ar gael a’r amodau hynny y caniateir i’r wybodaeth honno fod ar gael yn ddarostyngedig iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 13 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(f)