Deddf Addysg (Cymru) 2014

11Apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person y mae ei gais i gofrestru wedi ei wrthod gan y Cyngor ar y sail nad oedd y Cyngor wedi ei fodloni o ran addasrwydd y ceisydd o dan adran 10(4) apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 11 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(g)