RHAN 1CYFLWYNIAD
1Trosolwg
(1)
Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o gynnwys y Ddeddf hon.
(2)
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)
diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg;
(b)
cofrestru personau penodol sy’n addysgu plant a phobl ifanc;
(c)
rheoleiddio personau cofrestredig, gan gynnwys—
(i)
y rhwymedigaeth ar bersonau cofrestredig i gydymffurfio â chod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol;
(ii)
y camau y gellir eu cymryd yn erbyn person cofrestredig;
(d)
rhannu gwybodaeth ynghylch personau cofrestredig.
(3)
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)
pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion yng Nghymru;
(b)
amserau sesiynau ysgolion;
(c)
penodi personau i Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
(d)
swyddogaethau addysg awdurdodau lleol sydd, yn rhinwedd adran 25 neu 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i’w trin yn arferadwy, at bob diben, gan bersonau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.
(4)
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â’r Ddeddf.
(5)
Darperir mynegai o’r geiriau a’r ymadroddion sydd wedi eu diffinio a’u defnyddio yn y Ddeddf hon yn Atodlen 4.