(cyflwynwyd gan adran 9(3))
ATODLEN 2LL+CCATEGORÏAU COFRESTRU
1LL+CMae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.
TABL 1
Categori | Disgrifiad |
---|---|
Athro neu athrawes ysgol | Person sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol | [F1Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.] |
Athro neu athrawes addysg bellach | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach | Person F2... sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru. |
[F3Gweithiwr ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd— (a) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (b) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd– (c) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (d) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. ] |
[F4Athro neu athrawes ysgol annibynnol | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol | Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. |
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.] |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu hamnewid (22.5.2023) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(2)(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu hepgor (22.5.2023) yn rhinwedd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(2)(b)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu mewnosod (1.3.2017) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (O.S. 2016/1183), erglau. 1(2), 8(2)
F4Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu mewnosod (22.5.2023) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(z)
I3Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.1.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1688, ergl. 2(c)
Newid categorïau gweithiwr cofrestredigLL+C
2(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru (neu’r disgrifiad o gategori), a chaiff hynny gynnwys, ymhlith pethau eraill, ychwanegu categori cofrestru sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol (o fewn ystyr “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996), a diwygio neu ddileu categori o’r fath.
(2)Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud unrhyw ddarpariaeth am y categori cofrestru newydd, neu mewn cysylltiad ag ef, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.
(3)Yn benodol, caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) bennu’r gwasanaethau na chaiff person eu darparu oni bai bod y person—
(a)yn bodloni unrhyw ofynion a bennir, a
(b)wedi ei gofrestru.
(4)Caiff gorchymyn sy’n pennu gwasanaethau at ddibenion is-baragraff (3) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—
(a)un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu
(b)yr amgylchiadau y cyflawnir gweithgareddau ynddynt.
(5)Caiff gofyniad gorchymyn o’r fath ymwneud, yn benodol, â—
(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;
(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;
(c)cydymffurfio ag amod penodedig;
(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.
(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(7)Caiff gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwn addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(v)
DehongliLL+C
[F53Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—
(a)ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a
(b)er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;
[F6“gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;
“gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;]
“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—
(a)a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a
(b)syʼn hybu—
(i)datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu
(ii)ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;
“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—
(a)cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;
(b)asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;
[F6mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);]
ystyr “ysgol” (“school”) yw—
(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.]
[F6mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.]
Diwygiadau Testunol
F5Atod. 2 para. 3 wedi ei amnewid (1.3.2017) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (O.S. 2016/1183), erglau. 1(2), 8(3)
F6Geiriau yn Atod. 2 para. 3 wedi eu mewnosod (22.5.2023) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I7Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(z)