ATODLEN 2CATEGORÏAU COFRESTRU

(cyflwynwyd gan adran 9(3))

I1I4I71

Mae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.

TABL 1

Categori

Disgrifiad

Athro neu athrawes ysgol

Person sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol

F3Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.

Athro neu athrawes addysg bellach

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach

Person F4... sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

F1Gweithiwr ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—

  1. a

    yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

  2. b

    fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–

  1. a

    yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

  2. b

    fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

F5Athro neu athrawes ysgol annibynnol

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol

Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.

Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.

I2I62Newid categorïau gweithiwr cofrestredig

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru (neu’r disgrifiad o gategori), a chaiff hynny gynnwys, ymhlith pethau eraill, ychwanegu categori cofrestru sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol (o fewn ystyr “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996), a diwygio neu ddileu categori o’r fath.

2

Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud unrhyw ddarpariaeth am y categori cofrestru newydd, neu mewn cysylltiad ag ef, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

3

Yn benodol, caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) bennu’r gwasanaethau na chaiff person eu darparu oni bai bod y person—

a

yn bodloni unrhyw ofynion a bennir, a

b

wedi ei gofrestru.

4

Caiff gorchymyn sy’n pennu gwasanaethau at ddibenion is-baragraff (3) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

a

un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

b

yr amgylchiadau y cyflawnir gweithgareddau ynddynt.

5

Caiff gofyniad gorchymyn o’r fath ymwneud, yn benodol, â—

a

meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

b

cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

c

cydymffurfio ag amod penodedig;

d

arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

6

Cyn gwneud gorchymyn o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

7

Caiff gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwn addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall.

I3I5F23Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—

    1. a

      ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a

    2. b

      er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;

  • F6gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;

  • gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;

  • “gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—

    1. a

      a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a

    2. b

      syʼn hybu—

      1. i

        datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu

      2. ii

        ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;

  • “gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—

    1. a

      cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;

    2. b

      asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;

  • F6mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw—

    1. a

      ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

    2. b

      ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

  • F6mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.