xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(cyflwynwyd gan adran 2(2))

ATODLEN 1LL+CCYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG

StatwsLL+C

1(1)O ran y Cyngor,—

(a)nid yw’n was nac yn asiant i’r Goron, a

(b)nid oes ganddo statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Cyngor yn eiddo i’r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

PwerauLL+C

2(1)Caiff y Cyngor wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny neu’n ffafriol i hynny.

(2)Yn benodol, caiff y Cyngor—

(a)caffael a gwaredu tir neu eiddo arall;

(b)ymrwymo i gontractau;

(c)buddsoddi symiau nad oes eu hangen ar unwaith at ddiben cyflawni ei swyddogaethau;

(d)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall;

(e)ffurfio cyrff corfforaethol neu gysylltiedig neu gyrff eraill nad ydynt yn gyrff corfforaethol;

(f)ymrwymo i fentrau ar y cyd â phersonau eraill;

(g)tanysgrifio am gyfranddaliadau a stoc;

(h)cael benthyg arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

AelodaethLL+C

3(1)Mae’r Cyngor i gael 14 o aelodau.

(2)Ond caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy orchymyn i bennu bod y Cyngor i gael—

(a)nifer gwahanol o aelodau, neu

(b)isafswm ac uchafswm penodedig o aelodau.

(3)Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau.

(4)Wrth i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag aelodaeth y Cyngor, rhaid iddynt—

(a)rhoi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod yr aelodaeth honno yn cynnwys personau â’r profiad a’r sgiliau y mae eu hangen i alluogi’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol, a

(b)sicrhau bod y mwyafrif o aelodau’r Cyngor yn bersonau cofrestredig, neu wedi bod yn bersonau cofrestredig yn ddiweddar.

(5)Mae aelodau i weithredu fel unigolion (hynny yw, nid ydynt i weithredu fel cynrychiolwyr unrhyw sefydliad neu gorff y gallant fod yn perthyn iddo, nac unrhyw berson, sefydliad neu gorff sydd wedi eu henwebu).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I6Atod. 1 para. 3(1)-(4)(a)(5) mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(i)

I7Atod. 1 para. 3(1)-(4)(a)(5) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

I8Atod. 1 para. 3(4)(b) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Aelodaeth: darpariaeth bellachLL+C

4(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynglŷn ag aelodau a’u penodi.

(2)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn, yn benodol, gynnwys darpariaeth am—

(a)cymhwystra person i gael ei benodi;

(b)y weithdrefn benodi;

(c)llenwi unrhyw leoedd gwag yn yr aelodaeth sy’n codi ac eithrio ar ddiwedd tymor swydd aelod.

(3)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I10Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(ii)

DeiliadaethLL+C

5(1)Tymor swydd aelod yw unrhyw gyfnod hyd at 5 mlynedd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu wrth benodi’r aelod hwnnw.

(2)Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif swyddog y Cyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I12Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(iii)

DiswyddoLL+C

6(1)Caniateir i aelod gael ei ddiswyddo drwy bleidlais fwyafrifol gan yr aelodau eraill os yw’r aelod, heb reswm dilys—

(a)wedi bod yn absennol o 3 chyfarfod o’r Cyngor yn olynol, neu

(b)wedi bod yn absennol o gyfarfodydd am gyfnod o 6 mis neu fwy, gan ddechrau ar y dyddiad yr aeth yr aelod i gyfarfod o’r Cyngor ddiwethaf.

(2)Cyn i unrhyw bleidlais gael ei chymryd i ddiswyddo aelod, rhaid i’r aelod gael cyfle i wneud sylwadau llafar i’r Cyngor.

(3)Bydd person yn peidio â bod yn aelod—

(a)os yw’r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;

(b)os yw’r person wedi ei wahardd rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes yn rhinwedd gorchymyn gwahardd o dan adran 141B o Ddeddf 2002;

(c)os yw’r person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 yn rhinwedd gorchymyn disgyblu a wneir mewn cysylltiad â’r person hwnnw o dan adran 26;

(d)os yw’r person wedi ei anghymwyso rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol yn rhinwedd gorchymyn wedi ei wneud—

(i)gan Dribiwnlys Ysgolion Annibynnol o dan adran 470 o Ddeddf 1996, neu

(ii)gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 471 o’r Ddeddf honno; neu

(e)os yw’r person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi ei anghymwyso rhag bod yn athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach, mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I14Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(iv)

Tâl, lwfansau a threuliau aelodauLL+C

7(1)Caiff y Cyngor—

(a)talu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau y mae’n penderfynu arnynt i’w aelodau, a

(b)talu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw symiau fel pensiwn, lwfans ac arian rhodd i aelod, neu mewn cysylltiad ag aelod, y mae’n penderfynu arnynt.

(2)Os yw person yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor a’i bod yn ymddangos i’r Cyngor bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn briodol i’r person hwnnw dderbyn digollediad, caiff y Cyngor wneud taliad o unrhyw swm y mae’n penderfynu arno i’r person hwnnw.

(3)Caiff y Cyngor dalu unrhyw dreuliau a lwfansau y mae’n penderfynu arnynt i aelodau unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

(4)Caiff y Cyngor dalu i gyflogwr person sy’n aelod o’r Cyngor (neu berson nad yw’n aelod o’r Cyngor ond sy’n aelod o unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau) unrhyw ddigollediad y mae’n penderfynu arno mewn cysylltiad â cholli gwasanaethau’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I16Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(v)

Aelod-gadeiryddLL+C

8(1)Rhaid i’r Cyngor ethol aelod-gadeirydd o blith ei aelodaeth.

(2)Mae’r aelod-gadeirydd i ddal y swydd am unrhyw gyfnod y mae’r Cyngor yn penderfynu arno.

(3)Caiff yr aelod-gadeirydd—

(a)ymddiswyddo fel aelod-gadeirydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif swyddog y Cyngor, a

(b)cael ei ddiswyddo fel aelod-gadeirydd drwy bleidlais â mwyafrif o ddwy ran o dair gan yr aelodau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I18Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Prif swyddog a staff eraillLL+C

9(1)Rhaid i’r Cyngor gael prif swyddog.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi prif swyddog, gan gynnwys, yn benodol—

(a)pennu pwy sydd i benodi’r prif swyddog;

(b)y weithdrefn ar gyfer y penodiad hwnnw;

(c)sut y mae telerau ac amodau’r prif swyddog (gan gynnwys tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) i gael eu penderfynu.

(3)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.

(4)Caiff y Cyngor benodi unrhyw gyflogeion eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(5)Mae cyflogeion (ac eithrio’r prif swyddog) i gael eu penodi ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) y mae’r Cyngor yn penderfynu arnynt.

(6)Caiff y Cyngor—

(a)talu pensiynau neu arian rhodd, neu wneud taliadau mewn cysylltiad â hwy, i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy;

(b)darparu a chynnal cynlluniau (p’un a ydynt yn gyfrannol ai peidio) ar gyfer talu pensiynau ac arian rhodd i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy.

(7)Mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at bensiynau ac arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau ac arian rhodd i ddigolledu cyflogeion sy’n colli cyflogaeth neu sy’n dioddef colled neu leihad o ran enillion, neu mewn cysylltiad â’r cyflogeion hynny.

(8)Os—

(a)yw unrhyw berson, ar beidio â bod yn gyflogedig gan y Cyngor, yn dod yn aelod o’r Cyngor, neu’n parhau i fod yn aelod o’r Cyngor, a

(b)oedd y person hwnnw, drwy gyfeirio at ei gyflogaeth, yn gyfranogwr mewn cynllun pensiwn a gynhelir gan y Cyngor,

caiff y Cyngor wneud darpariaeth i’r person hwnnw barhau i gyfranogi yn y cynllun hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau y mae’n penderfynu arnynt, fel pe bai gwasanaeth y person fel aelod yn wasanaeth fel cyflogai; ac nid yw unrhyw ddarpariaeth o’r fath i ragfarnu paragraff 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I20Atod. 1 para. 9(1)-(3) mewn grym ar 18.8.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(vi)

I21Atod. 1 para. 9(1)-(3) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

I22Atod. 1 para. 9(4)-(8) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Cynlluniau yn ymwneud â thâl etcLL+C

10(1)Rhaid i’r Cyngor—

(a)llunio cynllun sy’n nodi ei ddull o benderfynu ar y symiau y caiff eu talu—

(i)i aelodau o dan baragraff 7, a

(ii)i gyflogeion o dan baragraff 9 (gan gynnwys y prif swyddog os yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9(2)(c) yn gwneud hynny’n ofynnol), a

(b)cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Dim ond yn unol â chynllun y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gymeradwyo o dan y paragraff hwn y caiff y Cyngor benderfynu ar y symiau y mae’n eu talu i aelodau a chyflogeion.

(3)Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru yn y modd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu.

(4)Caiff y Cyngor ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd (ac os felly, mae is-baragraffau (1)(b), (2) a (3) yn gymwys i’r cynllun diwygiedig hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I24Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Cymhwystra ar gyfer y cynllun blwydd-daliadauLL+C

11(1)Mae cyflogaeth gyda’r Cyngor ymhlith y mathau o gyflogaeth y gall cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau blwydd-daliadau o ran gweision sifil ac ati) fod yn gymwys iddi.

(2)Rhaid i’r Cyngor dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, unrhyw symiau y mae’r Gweinidog yn penderfynu arnynt mewn cysylltiad â’r cynnydd sydd i’w briodoli i is-baragraff (1) yn y symiau sy’n daladwy o’r arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig o dan y Ddeddf honno.

(3)Pan fo cyflogai’r Cyngor, drwy gyfeirio at y gyflogaeth honno, yn gyfranogwr mewn cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a hefyd yn aelod o’r Cyngor, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu bod gwasanaeth y person fel aelod i gael ei drin at ddibenion y cynllun fel gwasanaeth fel cyflogai (p’un a oes budd-daliadau yn daladwy iddo neu mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd paragraff 7 ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I26Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Pwyllgorau’n gyffredinolLL+C

12(1)O ran y Cyngor,—

(a)caiff sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben, a

(b)os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny’n ofynnol, rhaid iddo sefydlu unrhyw bwyllgorau at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau;

(ond gweler hefyd baragraffau 19 ac 20).

(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y Cyngor,—

(a)caiff benderfynu ar nifer yr aelodau y mae pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn i’w cael, a

(b)rhaid iddo benderfynu ar y telerau y mae’r aelodau hynny i fod yn y swydd a gadael y swydd yn unol â hwy.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) wneud darpariaeth ynghylch—

(a)aelodaeth pwyllgor a sefydlir o dan y rheoliadau;

(b)y telerau y mae aelodau’r pwyllgor hwnnw i adael y swydd yn unol â hwy;

(c)gweithdrefn y pwyllgor hwnnw.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) hefyd awdurdodi’r Cyngor i wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater y caniateir i ddarpariaeth gael ei gwneud gan y rheoliadau hynny mewn perthynas â hi.

(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan reoliadau sydd wedi eu gwneud o dan is-baragraff (1)(b), caiff y Cyngor gynnwys ar bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I28Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(vii)

Dirprwyo swyddogaethauLL+C

13(1)Caiff y Cyngor awdurdodi’r aelod-gadeirydd neu unrhyw bwyllgor sydd wedi ei sefydlu o dan baragraff 12 i arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar—

(a)cyfrifoldeb y Cyngor am arfer y swyddogaethau dirprwyedig, neu

(b)gallu’r Cyngor i arfer y swyddogaethau dirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I30Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

TrafodionLL+C

14(1)Caiff y Cyngor reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau (ac eithrio i’r graddau y mae’r Atodlen hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn darparu fel arall).

(2)Nis effeithir ar ddilysrwydd trafodion y Cyngor gan—

(a)unrhyw swyddi gwag o ran ei aelodau;

(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi aelod;

(c)anghymwyso person fel aelod ar ôl ei benodi.

(3)Rhaid i’r Cyngor roi unrhyw gopïau o unrhyw ddogfennau a ddosberthir i’w aelodau neu ei bwyllgorau i Weinidogion Cymru y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I32Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Gosod y sêlLL+C

15Mae’r weithred o osod sêl y Cyngor i gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)yr aelod-gadeirydd neu ryw berson arall sydd wedi ei awdurdodi’n gyffredinol neu’n benodol gan y Cyngor i weithredu at y diben hwnnw, a

(b)un aelod arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I34Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Profi dogfennauLL+C

16Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn offeryn sydd wedi ei wneud neu ei ddyroddi gan y Cyngor neu ar ei ran ac sydd i gael ei weithredu’n briodol o dan sêl y Cyngor, neu sydd i gael ei lofnodi neu ei weithredu gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan y Cyngor i weithredu ar ei ran yn hynny o beth, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a’i thrin, heb brawf pellach, fel ei bod wedi ei gwneud neu ei dyroddi felly oni ddangosir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I36Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

CyllidLL+C

17Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i’r Cyngor o unrhyw symiau ac yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran ad-dalu) y maent yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I38Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Swyddog cyfrifydduLL+C

18(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi person i weithredu fel swyddog cyfrifyddu’r Cyngor.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Cyngor, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae cyfrifoldebau—

(a)mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Cyngor;

(c)am sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Cyngor ddefnyddio ei adnoddau;

(d)sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I40Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Pwyllgor archwilioLL+C

19(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—

(a)adolygu materion ariannol y Cyngor a chraffu arnynt,

(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Cyngor,

(c)adolygu ac asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Cyngor, a

(d)gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).

(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i gyflawni ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I42Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Pwyllgor archwilio: aelodaethLL+C

20(1)Mae’r pwyllgor archwilio i gynnwys—

(a)o leiaf ddau aelod o’r Cyngor, a

(b)o leiaf un aelod lleyg.

(2)Ni chaiff aelod-gadeirydd y Cyngor fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.

(3)Caiff y Cyngor dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau i aelod lleyg y mae’n penderfynu arnynt.

(4)Rhaid i’r Cyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson nad yw’n aelod o’r Cyngor nac yn gyflogai iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I44Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Cyfrifon ac archwilio allanolLL+C

21(1)Rhaid i’r Cyngor—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

(2)Wrth lunio datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)ffurf a chynnwys cyfrifon o’r fath;

(b)y dulliau ac egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Cyngor gyflwyno copi o’i ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl cyflwyno’r copi o dan is-baragraff (3), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

(5)Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I46Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)

Adroddiadau blynyddolLL+C

22(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Cyngor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y ffordd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Caiff y Cyngor gyhoeddi’r adroddiad mewn unrhyw ffordd sy’n briodol yn ei farn ef (gan gynnwys yn electronig).

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I48Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)