ATODLEN 1CYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG
Prif swyddog a staff eraill
9
(1)
Rhaid i’r Cyngor gael prif swyddog.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi prif swyddog, gan gynnwys, yn benodol—
(a)
pennu pwy sydd i benodi’r prif swyddog;
(b)
y weithdrefn ar gyfer y penodiad hwnnw;
(c)
sut y mae telerau ac amodau’r prif swyddog (gan gynnwys tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) i gael eu penderfynu.
(3)
Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—
(a)
cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu
(b)
gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.
(4)
Caiff y Cyngor benodi unrhyw gyflogeion eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
(5)
Mae cyflogeion (ac eithrio’r prif swyddog) i gael eu penodi ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) y mae’r Cyngor yn penderfynu arnynt.
(6)
Caiff y Cyngor—
(a)
talu pensiynau neu arian rhodd, neu wneud taliadau mewn cysylltiad â hwy, i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)
darparu a chynnal cynlluniau (p’un a ydynt yn gyfrannol ai peidio) ar gyfer talu pensiynau ac arian rhodd i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy.
(7)
Mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at bensiynau ac arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau ac arian rhodd i ddigolledu cyflogeion sy’n colli cyflogaeth neu sy’n dioddef colled neu leihad o ran enillion, neu mewn cysylltiad â’r cyflogeion hynny.
(8)
Os—
(a)
yw unrhyw berson, ar beidio â bod yn gyflogedig gan y Cyngor, yn dod yn aelod o’r Cyngor, neu’n parhau i fod yn aelod o’r Cyngor, a
(b)
oedd y person hwnnw, drwy gyfeirio at ei gyflogaeth, yn gyfranogwr mewn cynllun pensiwn a gynhelir gan y Cyngor,
caiff y Cyngor wneud darpariaeth i’r person hwnnw barhau i gyfranogi yn y cynllun hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau y mae’n penderfynu arnynt, fel pe bai gwasanaeth y person fel aelod yn wasanaeth fel cyflogai; ac nid yw unrhyw ddarpariaeth o’r fath i ragfarnu paragraff 7.