Prif swyddog a staff eraillLL+C
9(1)Rhaid i’r Cyngor gael prif swyddog.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi prif swyddog, gan gynnwys, yn benodol—
(a)pennu pwy sydd i benodi’r prif swyddog;
(b)y weithdrefn ar gyfer y penodiad hwnnw;
(c)sut y mae telerau ac amodau’r prif swyddog (gan gynnwys tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) i gael eu penderfynu.
(3)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—
(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu
(b)gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.
(4)Caiff y Cyngor benodi unrhyw gyflogeion eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
(5)Mae cyflogeion (ac eithrio’r prif swyddog) i gael eu penodi ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) y mae’r Cyngor yn penderfynu arnynt.
(6)Caiff y Cyngor—
(a)talu pensiynau neu arian rhodd, neu wneud taliadau mewn cysylltiad â hwy, i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)darparu a chynnal cynlluniau (p’un a ydynt yn gyfrannol ai peidio) ar gyfer talu pensiynau ac arian rhodd i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy.
(7)Mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at bensiynau ac arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau ac arian rhodd i ddigolledu cyflogeion sy’n colli cyflogaeth neu sy’n dioddef colled neu leihad o ran enillion, neu mewn cysylltiad â’r cyflogeion hynny.
(8)Os—
(a)yw unrhyw berson, ar beidio â bod yn gyflogedig gan y Cyngor, yn dod yn aelod o’r Cyngor, neu’n parhau i fod yn aelod o’r Cyngor, a
(b)oedd y person hwnnw, drwy gyfeirio at ei gyflogaeth, yn gyfranogwr mewn cynllun pensiwn a gynhelir gan y Cyngor,
caiff y Cyngor wneud darpariaeth i’r person hwnnw barhau i gyfranogi yn y cynllun hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau y mae’n penderfynu arnynt, fel pe bai gwasanaeth y person fel aelod yn wasanaeth fel cyflogai; ac nid yw unrhyw ddarpariaeth o’r fath i ragfarnu paragraff 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 1 para. 9(1)-(3) mewn grym ar 18.8.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(vi)
I3Atod. 1 para. 9(1)-(3) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)
I4Atod. 1 para. 9(4)-(8) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)